Ysgol Gymraeg yn Wrecsam yn rhoi swyddi yn y fantol?
- Cyhoeddwyd

Ysgol Parc Borras yw un safle posib ar gyfer ysgol Gymraeg newydd
Mae undeb athrawon yn ardal Wrecsam yn honni y gallai swyddi fod yn y fantol oherwydd ymdrechion i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
Yn ôl undeb yr NASUWT, gallai creu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn y dref arwain at ddiswyddiadau yn y dref.
Mae Cyngor Wrecsam yn mynnu nad oes "tystiolaeth o gwbl" i honiadau o'r fath.
Llythyr
Mae Cyngor Wrecsam wedi bod yn ymgynghori ar agor ysgol gynradd newydd yn ardal Borras yng ngogledd y dref, o bosib yn adeilad y babanod yn ysgol cyfrwng Saesneg Borras Park.
Ond fel rhan o'r ymgynghoriad fis Tachwedd, cafodd llythyr ei anfon gan gangen leol undeb athrawon yr NASWUT a oedd yn cwestiynnu'r angen am yr ysgol o gwbl.

Mae'r llythyr yn cwestiynu a oes angen ysgol Gymraeg newydd
Ynddo, mae'r Ysgrifennydd lleol, Stephen Witherden, yn dweud bod yna "lawer o lefydd gweigion" yn ysgolion Cymraeg yr ardal.
Mae'n disgrifio peth o waith amcangyfrif y Cyngor yn y gorffennol o'r twf mewn galw am addysg Gymraeg fel "ffantasi".
Ymgais i gefnogi "nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg" erbyn 2050 sydd wrth wraidd y cynlluniau medd y llythyr - yn hytrach na galw lleol yn Borras.
Mae'n rhybuddio bod "goblygiadau enfawr i'r gweithlu yn Wrecsam".

Mae'r llythyr yn tanseilio'r ymdrechion i gynyddu addysg Gymraeg, medd Ioan Jones o undeb UCAC
Gwrthod hynny mae cynrychiolydd ar ran undeb arall.
Dywedodd Ioan Jones, ysgrifennydd lleol undeb UCAC ei fod wedi ei "syfrdanu" â chynnwys y llythyr: "Ar y gorau, mae'n dangos anwybodaeth a diffyg amgyffred o sefyllfa'r ysgolion Cymraeg yma yn Wrecsam.
"Ar y gwaethaf, mae'n ymgais i danseilio addysg Gymraeg yma yn y sir ac hefyd yn genedlaethol."
Yn ôl mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg, mae ysgolion Cymraeg bellach wedi codi nifer y disgyblion sy'n cael eu caniatáu ymhob blwyddyn ac y gallai hynny felly esbonio rhai o'r llefydd gweigion ym mlynyddoedd hŷn yr ysgolion.
'Dim tystiolaeth'
Dywedodd Cyngor Wrecsam fod y galw am addysg Gymraeg yn yr ardal wedi cynyddu 50% ers 2009, a bod nifer y "llefydd gweigion yn lleihau".
Does "dim tystiolaeth o gwbl", medden nhw, dros honiadau Mr Witherden am "ddiswyddiadau."
Mae'n "anodd deall pam na fyddai'r undeb yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru" o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Gofynnodd y BBC am ymateb gan Mr Witherden a ddywedodd y dylid cysylltu â'r NASUWT yn ganolog. Maen nhw eto wedi ymateb i'r cais am sylw.
Mi fydd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam yn trafod yr ymgynghoriad ar ysgol Gymraeg newydd ar y trydydd ar ddeg o Fawrth.