Cwpan Cyprus: Yr Eidal 3-0 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jayne Ludlow
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rheolwr Cymru, Jayne Ludlow yn "fodlon ac yn anfodlon" gyda pherfformiad merched Cymru

Colli oedd hanes tîm pêl-droed merched Cymru o 3-0 yn erbyn Yr Eidal yng Nghwpan Cyprus ddydd Gwener.

Dyma'r tro cyntaf i ferched Jayne Ludlow golli yn y gystadleuaeth, wrth i'r gwrthwynebwyr ennill yn haeddiannol.

Fe fydd rhaid i Gymru ennill yn erbyn Y Swistir yng ngêm olaf Grŵp A ddydd Llun os am unrhyw obaith o gamu ymlaen i'r rownd nesaf.

Mae Cymru eisoes wedi ennill un gêm yn erbyn y Ffindir o 1-0 ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cristiana Girelli sgorio dwy gôl i'r Eidal

Roedd Yr Eidal yn hynod gryf yn ymosodol wrth i Cristiana Girelli sgorio dwy a Greta Adami rwydo ar ôl cic gornel gyda dau funud yn weddill o'r gêm.

Fe wnaeth golwr Cymru, Laura O'Sullivan arbed cic o'r smotyn hwyr wrth i Gymru fethu a chreu unrhyw gyfleoedd o bwys.

Dywedodd rheolwr Cymru, Jayne Ludlow ei bod hi'n "fodlon gyda rhai rhannau ond yn anhapus gyda rhannau eraill".

Ychwanegodd: "Roeddem yn gwybod ein bod ni'n gorfod camu fyny i chwarae yn erbyn yr Eidalwyr. Fase'r merched wedi dysgu lot am elfennau o'i gêm.

"Fe alle' ni fod wedi canolbwyntio'n well ar adegau ac roeddem ychydig yn naïf ar adegau."