Ymgais record byd rhedwyr o'r enw Jones ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae ymgais ar y gweill i geisio torri record byd ar gyfer y casgliad mwyaf o redwyr gyda'r cyfenw Jones.
Mae dros 800 o redwyr eisoes wedi cofrestru ar gyfer yr hanner marathon ar Ynys Môn ddydd Sul.
Mae'r cwmni o Langefni sy'n trefnu'r digwyddiad yn disgwyl 2,500 o redwyr i gymryd rhan mewn tair ras - hanner marathon, 10km Ynys Môn, a ras milltir i blant.
Y gobaith yw sefydlu record byd newydd drwy gael y casgliad mwyaf o redwyr gyda'r cyfenw Jones i gychwyn rhedeg o Pont Menai.
Roedd y brif ras yn cychwyn am 09:00 ac yn arwain lawr i Gastell Biwmares ac yn ôl, sy'n gyfanswm o 13 milltir.
Dywedodd Geraint Hughes o gwmni creision Jones, sy'n cefnogi'r ras: "O'r hyn 'dan ni'n gwybod, does 'na erioed ymdrech wedi bod i geisio torri record byd gyda chasgliad o bobl gyda'r cyfenw Jones."