'Pryder cynyddol' am ddynes wnaeth yrru allan yn yr eira

  • Cyhoeddwyd
Lucy DuncanFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi wedi bod yn bwrw eira'n drwm pan deithiodd Lucy Duncan yn ei char ddydd Iau

Mae Heddlu'r De yn dweud bod "pryder cynyddol" am ddynes 19 oed sydd heb gael ei gweld ers iddi adael Abertawe ddydd Iau.

Cafodd car Lucy Duncan ei weld diwethaf yn ardal Henffordd yn Lloegr am tua 15:00 y diwrnod hwnnw.

Roedd hi wedi bod yn bwrw eira'n drwm mewn sawl rhan o dde Cymru a Lloegr ddydd Iau, gydag amodau gyrru hefyd yn wael.

Dywedodd yr heddlu ei bod wedi gadael ei chartref yn Horton, Penrhyn Gŵyr am 11.55 yn ei char Volkswagen du, cyn tynnu arian allan o dwll yn y wal yn Abertawe awr yn ddiweddarach.

Y gred yw ei bod hi wedyn wedi teithio ar hyd yr A465 drwy Hirwaun a Brynmawr.

Ychwanegodd yr heddlu ei bod hi'n bosib ei bod wedi ymweld ag ardal Rochdale dros y penwythnos.

Roedd hi'n gwisgo crys-t du, trowsus du a chôt goch, gyda'i gwallt brown wedi'i glymu nôl, ac mae hi tua 5 troedfedd 5 modfedd o daldra.

Mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth amdani i gysylltu â nhw.