Difrod storm yn atal achubwyr rhag cyrraedd dyn fu farw
- Cyhoeddwyd

Cafodd y tîm achub mynydd eu galw i geisio cyrraedd y dyn, ond doedd dim modd defnyddio hofrennydd oherwydd y tywydd
Mae achubwyr mynydd yn dweud eu bod wedi methu â chyrraedd mewn pryd i achub dyn yng Ngwynedd fu farw, a hynny yn ystod y tywydd garw diweddar.
Cafodd Tîm Achub a Chwilio De Eryri eu galw i gynorthwyo fore Gwener am nad oedd y gwasanaeth ambiwlans yn medru cyrraedd dyn oedd yn cael poenau yn ei frest.
Roedd coeden a ddisgynnodd yn ystod Storm Emma wedi rhwystro'r ffordd ato, a doedd dim modd defnyddio hofrennydd chwaith oherwydd y tywydd.
Dywedodd y tîm eu bod wedi eu galw allan am 06:29 ond tua hanner awr yn ddiweddarach, cyn iddyn nhw allu cyrraedd, fe gawson nhw wybod fod y dyn wedi marw.
Ychwanegodd yr achubwyr mewn neges ar Facebook eu bod yn estyn eu cydymdeimlad â theulu a ffrindiau'r dyn.