Banc olaf Machynlleth i gau
- Cyhoeddwyd
Mae un o drefi gwledig Cymru i golli ei banc olaf wrth i Barclays gyhoeddi y bydd cangen Machynlleth yn cau ar 21 Medi.
Yn ôl Barclays, dim ond 110 o gwsmeriaid sy'n defnyddio'r banc, gan olygu fod y defnydd wedi gostwng 8% yn y ddwy flynedd diwethaf wrth i bobl droi at wasanaethau ar-lein a bancio ar y ffôn.
Dywed Barclays fod modd i gwsmeriaid ddefnyddio canghennau eraill yn Nhywyn (12 milltir) a Dolgellau (16 milltir), neu Swyddfa'r Post ym Machynlleth.
Daw penderfyniad Barclays ar ôl i fanciau NatWest a HSBC gau eu canghennau nhw yn y dref.
Dywedodd Ramona Enfield, cyfarwyddwr bancio cymunedol Barclays yng ngogledd Cymru fod y penderfyniad wedi bod yn un anodd.
Dywedodd y byddai'r banc yn cynnal sesiynau i gwsmeriaid ynglŷn â defnyddio systemau bancio digidol.