Arestio bachgen 16 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad ger Sanclêr brynhawn Mawrth
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod bachgen 16 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn Sir Gâr.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i ardal Sanclêr am tua 17:40 ddydd Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys eu bod yn ymchwilio i lofruddiaeth dynes, a bod y bachgen yn y ddalfa.
Mae uned arbennig wedi'i sefydlu yng ngorsaf heddlu Caerfyrddin a dyw'r llu ddim yn chwilio am neb arall yn ymwneud â'r digwyddiad.
Mae teulu'r ddynes yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Roedd yna bresenoldeb heddlu trwm ar ffordd yr A4066 rhwng Sanclêr a Thalacharn nos Fawrth
Cadarnhaodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi eu galw i ddigwyddiad ar Fferm Broadmoor tua 17:55 brynhawn Mawrth.
Ychwanegodd llefarydd nad oedd unrhyw un wedi ei gludo i'r ysbyty, a bod parafeddygon wedi gadael y safle erbyn 19:50.

Roedd yr heddlu'n parhau ar y safle fore Mercher
Dywedodd Graham Hollis, sy'n rhedeg cwmni atgyweirio ceir gerllaw, wrth BBC Cymru fod presenoldeb heddlu'n drwm yn yr ardal nos Fawrth: "Roedd tua saith neu wyth cerbyd i ddechrau, gan gynnwys uned cŵn, a cherbyd ymateb cyntaf y gwasanaeth ambiwlans," meddai.
"'Dwi ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd, ond mae'n edrych yn eitha' difrifol."