Rhybudd am gost plismona digwyddiadau mawr de Cymru

  • Cyhoeddwyd
Heddlu CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae heddlu arfog ar ddyletswydd yn aml ar gyfer digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd

Mae plismona digwyddiadau mawr yn ne Cymru yn "her fawr" oherwydd y gost o wneud hynny, yn ôl pennaeth yr heddlu.

Dywedodd prif gwnstabl Heddlu De Cymru, Matt Jukes bod cost rhagor o ddiogelwch fel heddlu arfog wedi cynyddu 50% mewn blwyddyn yn unig.

Ond dyw'r llu ddim wedi derbyn unrhyw arian ychwanegol i fynd i'r afael â hyn, meddai.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am sylw gan y Swyddfa Gartref.

'Angen heddlu arfog'

"Mae'n her fawr. Rydyn ni'n plismona 200 o ddigwyddiadau mawr pob blwyddyn," meddai Mr Jukes.

Dywedodd bod yr ymosodiadau terfysgol yn Llundain a Manceinion yn golygu bod pob llu yn y DU wedi gorfod cynyddu diogelwch o amgylch digwyddiadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 2,000 o heddweision ar ddyletswydd ar gyfer ffeinal Cynghrair y Pencampwyr

Ychwanegodd bod plismona digwyddiadau fel gemau rygbi'r Chwe Gwlad gyda heddlu arfog wedi dod yn gyffredin yng Nghaerdydd.

"Nawr mae'n rhaid i ni warchod digwyddiadau gyda heddlu arfog, a does gennym ni ddim y cyllid i wneud hynny," meddai.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru dderbyn rhagor o arian i ddarparu diogelwch ar gyfer ffeinal Cynghrair y Pencampwyr, gyda thua 2,000 o heddweision ar ddyletswydd o amgylch y ddinas.

Ond dyw'r llu ddim yn derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer nifer o ddigwyddiadau yn y brifddinas, fel cyngherddau Robbie Williams, Justin Bieber a Coldplay gafodd eu cynnal yn Stadiwm Principality y llynedd.

'Llai ar ddyletswydd'

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas yn dweud bod angen i'r Swyddfa Gartref gynyddu'r arian sy'n cael ei roi at blismona.

"Mae'n rhaid iddyn nhw gydnabod bod rhagor o gostau a rhagor o faich ar yr heddlu a'r cyngor i blismona a diogelu digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd," meddai.

"Mae'n rhaid i'r Swyddfa Gartref werthfawrogi hefyd bod llai o heddweision ar ddyletswydd heddiw nag oedd 40 mlynedd yn ôl, er bod mwy o fygythiad o derfysgaeth."