Heddlu'n apelio ar gefnogwyr i fihafio
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn i gefnogwyr sy'n mynd i'r gêm bêl-droed rhwng Wrecsam a Chaer ddydd Sul i ymddwyn yn gyfrifol.
Am gyfnod bu'r gêm yn destun mesurau arbennig yn dilyn trafferth rhwng cefnogwyr y ddau dîm yn y gorffennol.
Ym mis Gorffennaf y llynedd daeth cyhoeddiad y byddai'r mesurau yna'n cael eu llacio ar gyfer y tymor yma.
Ond pan gyfarfu'r ddau dîm yng Nghaer ym mis Tachwedd, fe gafodd nifer o bobl eu harestio.
Cafodd chwech o bobl eu cyhuddo mewn cysylltiad â ffrwgwd yng Nghaer. Fe gafodd y chwech eu rhyddhau ar fechnïaeth, ond fel amod o hynny, ni fyddan nhw'n cael mynd i'r gêm yn Wrecsam.
'Diogelwch a chadw trefn yw'r flaenoriaeth'
Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd Alex Goss o Heddlu'r Gogledd: "Mae gennym gyfrifoldeb i warchod hawl cefnogwyr i fynd i'r gêm, a hawliau unigolion i fyw eu bywydau bob dydd.
"Mae angen cydbwyso'r cyfrifoldebau yma er mwyn sicrhau ymateb cymesur gan yr heddlu. Diogelwch y cyhoedd a chadw trefn yw ein blaenoriaeth.
"Rwy'n gofyn i gefnogwyr ymddwyn yn gyfrifol ac i ganiatáu i eraill yn yr ardal fynd o gwmpas eu pethau.
"Cafodd nifer o bobl eu harestio yn Sir Gaer a Wrecsam mewn perthynas â'r gêm yng Nghaer fis Tachwedd, a byddwn yn atgoffa unrhyw un sy'n ceisio manteisio ar gêm bêl-droed drwy ymddwyn mewn modd troseddol, hiliol neu wrthgymdeithasol - gan gynnwys dangos baneri sarhaus - y byddwn ni'n delio gyda nhw yn y modd priodol."
Pan oedd y gêm yn destun mesurau arbennig roedd cefnogwyr y ddau dîm yn gorfod teithio ar gludiant swyddogol, ac ar wahân i'r gêm.
Roedd cefnogwyr wedi dadlau ers tro bod angen adolygu'r drefn yna.
Bydd y gêm ar y Cae Ras yn dechrau am 12:00 ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2018