Teimlo daeargryn bychan yng Ngwynedd fore Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion yn ardal Dolgellau wedi dweud eu bod wedi teimlo daeargryn bychan fore Gwener.
Yn ôl yr Arolwg Daearegol Prydeinig cafodd daeargryn oedd yn mesur 2.7 ar y raddfa Richter ei chofnodi ger Dinas Mawddwy am 08:14.
Dywedodd dyn lleol wrth BBC Cymru Fyw ei fod yn "swnio fel llwyth mawr o eira yn syrthio o'r to" a'i fod wedi "para tua 5 i 10 eiliad".
Ychwanegodd Dwyryd Williams fod eraill wedi teimlo eu tai yn crynu, a bod pobl wedi ei theimlo rhai milltiroedd i ffwrdd.
Fis diwethaf fe wnaeth daeargryn yn mesur 4.6 ar y raddfa Richter daro de Cymru - y mwyaf ym Mhrydain ers 10 mlynedd.