Diogelu murluniau hanesyddol pier Bae Colwyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith wedi dechrau i ddiogelu murluniau hanesyddol pier Bae Colwyn wrth iddo gael ei ddymchwel.
Ymhlith y gwaith celf mae murluniau gan yr artistiaid Eric Ravilious a Mary Adshead.
Cafodd y pier ei godi yn 1934.
Dywedodd arbenigwyr y byddai'n amhosib symud y murluniau ond mae staff ar hyn o bryd yn ceisio gwneud eu gorau i'w diogelu.
Mae'r pier, ar hyn o bryd, yn cael ei ddymchwel wedi i ran ohono gwympo i'r môr.
Eisoes mae staff cadwraeth Cyngor Conwy wedi diogelu un wal sy'n cael ei gorchuddio gan furlun o waith Ravilious ac maent yn gobeithio diogelu ail ran.
Mae'r motiffau mwyaf pwysig o furluniau Adshead hefyd wedi cael eu symud yn ofalus.
Arwyddocâd hanesyddol
Dywedodd y swyddog cadwraeth Huw Davies: "Roedd Eric Ravilious a Mary Adshead yn artistiaid enwog yn eu dydd.
"Roedd Eric Ravilious yn artist rhyfel swyddogol ac aeth ar goll tra'n hedfan un o awyrennau'r fyddin yn 1942.
"Dim ond dau o'i furluniau sydd ar ôl bellach a hwn [ym mhier Colwyn] yw'r un olaf i gael ei arddangos. Mae o arwyddocâd hanesyddol.
"Roedd ei waith yn addurno muriau yr ystafell de ac yn arddangos golygfa o ddadfeiliad tan ddŵr gyda gwymon pinc a phiws.
"Roedd Mary Adshead yn ferch i'r dyn a gynlluniodd y pafiliwn - roedd yr adeilad blaenorol wedi llosgi. Roedd ei gwaith hi ar furiau'r awditoriwm."
Mae pier Bae Colwyn wedi bod ar gau ers 2008 ac fe waethygodd ei gyflwr wrth i frwydr gyfreithiol am ei berchnogaeth fynd yn ei blaen.
Cyngor Conwy sydd nawr yn berchen ar y pier ac fe gytunon nhw fod yn rhaid dymchwel y rhannau hynny o'r pier sy'n anniogel.
Mae rhannau o'r adeilad yn cael eu storio fel bod ymddiriedolaeth yn gallu ymchwilio a oes modd ailgodi'r pier.
Ychwanegodd Mr Davies: "Dyw'r murluniau ddim wedi cael eu harddangos ers cryn amser. Mae gwaith Eric Ravilious ar un wal wedi'i golli gan fod dŵr yn dod i'r adeilad ac mae sawl haen o baent a phlaster wedi'i orchuddio.
"Mi fydd hi'n dipyn o dasg i adfer y gwaith. Am y tro mae'r cyfan yn cael ei storio mewn man diogel.
"Rydyn yn falch ein bod wedi llwyddo i achub y murluniau. Roedd arbenigwyr wedi dweud ei fod bron yn amhosib ac fe allai'r cyfan wedi bod yn domen o rwbel.
"Y cam nesaf fydd dod o hyd i gartref iddynt. Os ydi'r ymddiriedolaeth yn llwyddo i ailadeiladu'r pier, rydyn yn gobeithio y byddant yn gallu dychwelyd yno ryw ddydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2018