Sara Manchipp: Effaith bersonol stelcian ar-lein

  • Cyhoeddwyd
saraFfynhonnell y llun, S4C

Mewn achos llys diweddar cafodd gŵr 25 oed ei ddedfrydu i garchar am ddwy flynedd a hanner am stelcio cyn-Miss Cymru, Sara Manchipp, a merched eraill ar wefan Facebook.

Ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru ddydd Llun, 12 Mawrth, fe ddisgrifiodd Sara yr effaith brawychus gafodd y weithred ar ei bywyd.

'Codi corff y ci o'r ddaear'

Ges i negeseuon ar Facebook. Doedd dim llun ar y cyfrif, dim ond enw, a'r negeseuon mwyaf erchyll.

I ddechrau, o'n i'n meddwl fod e'n jôc, neu spam, ac er bod fi'n ypset, ar ôl y neges gyntaf 'na blocies i fe, ac anghofies i amdano fe.

Wedyn yn y prynhawn ges i neges o gyfrif arall, eto heb lun, ond y tro yma, roedd y negeseuon yn fwy personol ac wedi'u anelu'n fwy pendant tuag ataf i.

Roedd yn sôn am fy nghi bach o'dd newydd farw jest cyn y Nadolig yn 2017... ac yn dweud fod e'n mynd i godi ei chorff hi o'r ddaear... pethe' really erchyll a phersonol fel 'na.

Wedyn fydde fe'n mynd ymlaen i ddweud pethe fel: "Fyddi di byth yn saff Sara, fyddai wastad yn watshio ti."

Oedd fy ffrindiau i gyd yn dweud cer i'r heddlu, a wnes i feddwl am wneud, ond wedyn feddyliais... beth allen nhw wneud? O'n i'n credu fydde fe jest yn gwastraffu'u hamser nhw.

O ddrwg i waeth

Ond y diwrnod wedyn, enw arall, eto dim llun ond gyda pethau oedd yn awgrymu fod e'n gwybod lle ro'n i'n byw, ac oedd e'n dechrau gwneud storis bach lan oedd yn sôn am y pethe oedd e'n mynd i wneud i mi.

Oedd e'n dechrau cynnwys gwybodaeth bersonol iawn. O'dd e'n gwbod pwy oedd hoff gymeriad Disney fi, sef Ariel y fôr-forwyn, ac yn dweud pethe fel: "Fydd angen ti fod yn fôr-forwyn ar ôl i mi daflu di i'r môr" a pethe fel 'na.

Wnaeth hyn really codi ofn arna'i. Oedd e'n gwybod lle o'n i'n byw a pethau amdanaf i doedd dim modd iddo wybod.

'Symud mas o'r tŷ'

Es i i'r heddlu, ac o'n nhw'n ffantastig. Ar ôl cyfnod arall o negeseuon yn dod noson ar ôl noson, wnaeth yr heddlu benderfynu fod hi ddim yn saff i mi fod yn y tŷ gan fod dim syniad gyda neb pwy oedd e.

Allai wedi bod yn byw drws nesa. Alle fe fod yn ffrind... unrhywun.

Symudais i mas o'r tŷ a mynd i fyw gyda Mam. Rhoiodd yr heddlu panic alarm yn y tŷ a ges i rape alarm i gario gyda fi drwy'r amser.

Creu ofn

Dyma oedd y peth caletaf. Ddim yn teimlo'n saff hyd yn oed yn y tŷ. Roedd Mamgu'n gorfod dod lawr i dynnu'r llenni pan oedd hi'n tywyllu gan fod gormod o ofn gyda fi fynd i'r ffenest rhag ofn fod e mas 'na.

O'n i'n cysgu gyda pob golau arno, a gyda'r teledu 'mlaen. Ond y peth gwaethaf oedd bod fi ddim yn gwybod pwy i trustio.

Fi'n gwybod fod e'n swnio'n wael ond o'n i ddim hyd yn oed yn gallu trustio ffrindiau fi oedd yn ddynion.

Pob tro fyddai dyn yn dod lan ataf i oedden i'n gofyn i'n hun: "Ife ti yw e?"

Disgrifiad o’r llun,

Sara wrth ei gwaith yn hyrwyddo gwahanol ymgyrchoedd a digwyddiadau

Ges i wared â Facebook am gwpwl o fisoedd, ac ro'n i'n teimlo'n well am sbel achos stopiodd y negeseuon.

Ond oherwydd bod fi'n gweithio ym myd promotions, o'n i'n colli mas ar waith. Felly es i nôl ar Facebook gyda enw hollol wahanol... doedd ffrindie fi ddim hyd yn oed yn gallu ffeinjio fi.

Dau ddiwrnod ar ôl i mi gael y cyfrif newydd, dechreuodd y negeseuon eto.

Gwbod ei stwff!

Doedd e ddim yn dwp achos yn ôl yr heddlu oedd e'n gwybod sut i wneud gwahanol gyfrifon a chuddio'i IP address, fel bod hi bron yn amhosib i'w ffeinjio. Ond yn y diwedd, roedd yr heddlu'n fwy clyfar nag e!

Ar ôl iddo gael ei arestio, ffeinjies i mas fod e'n gwneud job oedd yn ymwneud â chyfrifiaduron, ac wedi bod yn stelcian 17 o ferched eraill ar yr un pryd â fi.

Y cysylltiad?

Ddaeth yn glir yn weddol gloi sut wnaeth y boi ddewis fi fel un o'i ddioddefwyr.

Pan ddwedoddd yr heddlu beth oedd enw'r boi, doedden ni ddim yn ei nabod, ond pan wnes i Googlo'i enw, weles i ei lun a lynces i nghalon!

Roedd y bachgen yma'n arfer dod mewn i'r siop Subway lle ro'n i'n gweithio. O'n i'n teimlo'n sick!

Ceisio bod yn garedig

O'n i'n cofio fe'n iawn. O'n i wastad yn gwneud ymdrech i siarad ag e, achos pan oedd e'n dod mewn, oedd e wastad yn dawel a shei.

Pan oedd e'n siarad â fi, roedd e byth yn edrych i fy llygaid, oedd e bach yn od o feddwl nôl.

Ond do'n i ddim yn gallu dychmygu beth oedden i wedi gwneud i ypsetio fe ddigon iddo fe wneud hyn i bywyd fi!

Gwybodaeth ar blât

Yn y Llys, wnes i gyfarfod â rhai o'r merched eraill oedd e wedi stelcian ac roedd un yn gweithio mewn siop tebyg yn Hereford ac roedd pawb ond fi yn dod o Hereford, lle roedd e'n byw. Dim ond fi oedd e wedi dewis o'r tu fas.

Roedd e wedi cael ein henwau o'r bathodynau oedden ni'n gwisgo yn y gwaith a dyna sut wnaeth e ffeinjio ni ar y we!

Pam?

Y reswm oedd e'n gwneud hyn mae'n debyg oedd oherwydd bod e'n dioddef o anxiety a depression, a roedd e'n genfigennus bod ni gyd yn edrych mor hapus, felly roedd e am i ni deimlo mor isel â roedd e'n teimlo.

Ond i unrhywun sy'n cael ei boeni fel hyn, peidiwch ag anwybyddu'r peth. Ewch at yr heddlu'n syth. Does neb yn haeddu cael eu trin fel hyn.

Mae llais 'da chi, a bydd pobl yn gwrando. Defnyddiwch fe er mwyn stopio pobl fel hyn rhag dinistrio bywydau pobl eraill hefyd.

Un peth oedd e'n cyhuddo fi o fod yn ei negeseuon oedd "spineless". Felly yn y Llys, edrychodd e arna'i a gwenu. Wnes i edrych yn ei lygaid, chwerthin a fflicio nghwallt i.

"Who's spineless now?!"