Gwleidyddion o Gymru 'ddim am siarad eto ar RT'
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidyddion o Gymru wedi dweud na fyddan nhw'n ymddangos ar sianel deledu Rwsiaidd RT am y tro.
Dywedodd y Ceidwadwr David TC Davies ac arweinydd UKIP Cymru, Neil Hamilton, sydd wedi bod ar RT yn y gorffennol, na fyddan nhw'n gwneud eto.
Daw hynny wedi i'r Prif Weinidog Theresa May ddweud ei bod hi'n "hynod o debygol" mai Rwsia oedd yn gyfrifol am wenwyno'r cyn-ysbïwr Sergei Skripal yr wythnos diwethaf.
Mae un o ACau blaenllaw Plaid Cymru wedi dweud y bydd y blaid yn "adolygu" eu hymddangosiadau ar y sianel.
Boicot
Dywedodd Adam Price, sydd wedi bod ar RT yn y gorffennol, mai'r peth doeth oedd gadael i reoleiddwyr y diwydiant benderfynu a oedd y sianel yn un addas ai peidio.
Ymhlith y gwleidyddion eraill o Blaid Cymru sydd wedi ymddangos ar y sianel mae'r ASau Hywel Williams, Liz Saville-Roberts a Jonathan Edwards, a'r AC Simon Thomas.
Mae RT, oedd yn arfer cael ei hadnabod fel Russia Today, yn sianel sy'n derbyn cefnogaeth gan y Kremlin ac yn darlledu ar Freeview yn y DU.
Ddydd Llun fe wnaeth AS o Gymru alw ar gydweithwyr i foicotio'r sianel yn dilyn digwyddiad yng Nghaersallog.
Fe gafodd Mr Skripal a'i ferch, Yulia eu darganfod yn anymwybodol yn y ddinas ar 4 Mawrth.
Dywedodd AS De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty y dylai trwydded ddarlledu RT hefyd gael ei hatal.
Mae'r gwleidyddion eraill o Gymru sydd wedi ymddangos ar RT yn cynnwys ASE UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, a'r cyn-arweinydd Llafur Neil Kinnock.
Ddydd Mawrth fe wnaeth mab Mr Kinnock, Stephen - sef AS Llafur Aberafan - alw am symud neu ohirio Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia yn dilyn gwenwyno Mr Skripal.
Rheoleiddwyr
Pan ofynnwyd i Mr Price ddydd Mawrth a fyddai gwleidyddion Plaid Cymru'n stopio ymddangos ar y sianel yn y dyfodol, dywedodd y byddai hynny'n cael ei "adolygu".
Ychwanegodd y byddai gwrthod siarad ag RT yn golygu "tynnu'ch hun allan o fforwm cyhoeddus".
"Dwi wedi cael materion yn codi gyda'r BBC fel darlledwr," meddai.
"Dwi ddim yn siŵr a yw'r BBC yn hollol ddiduedd ar adegau, ond dwi dal yn ymddangos ar y BBC.
"Yn fy marn i, cyn belled â bod ganddyn nhw drwydded i ddarlledu, wedyn fy nyletswydd i fel gwleidydd etholedig yw cyflwyno fy achos mewn fforwm sydd yn gyfreithlon dan y rheolau.
"Achos fel arall ychydig iawn o gyfryngau dwi'n teimlo'n hollol gyfforddus gyda nhw yn fy marn bersonol i."
Dywedodd Mr Davies, sydd wedi cael ei dalu i ymddangos ar raglen ddychan ar y sianel, na fydd yn "ymddangos yn fwriadol ar RT ar ôl beth ddigwyddodd yng Nghaersallog o ganlyniad i'r cyswllt sydd bron yn sicr" gyda Rwsia.
Ychwanegodd Mr Hamilton na fyddai'n ymddangos ar y sianel chwaith "yn y dyfodol agos", ac mai ond ddwywaith yr oedd wedi gwneud o'r blaen.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Ofcom: "Rydym wedi clywed datganiad y Prif Weinidog ac rydym yn disgwyl datganiad pellach ddydd Mercher.
"Yna fe fyddwn yn ystyried goblygiadau trwydded ddarlledu RT."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018