Ymchwilio i farwolaeth disgybl mewn uned iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn ymchwilio i farwolaeth person ifanc yn un o'u hunedau iechyd meddwl.
Bu farw'r ferch 16 oed, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd, yn uned Tŷ Llidiard ym Mhen-y-bont yr wythnos ddiwethaf.
Mae'r bwrdd yn dweud eu bod yn cydymdeimlo'n ddwys gyda theulu a chyfeillion y ferch, ac yn cynnig cefnogaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.
Dywedodd y cyfarwyddwr Gwasanaethau Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Alan Lawrie fod marwolaeth y claf ifanc wedi eu "tristau'n ddwfn".
"Rydym yn cydweithio'n agos gydag unigolion a chyrff ac fe fyddan nhw'n parhau i gynnig cefnogaeth wrth i'r ymchwiliadau gael eu cynnal," meddai.