Independent yn ymddiheuro am neges sarhaus ar-lein

  • Cyhoeddwyd
neges sarhausFfynhonnell y llun, The Independent
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd y neges sarhaus ar gyfeiriad stori yn ymwneud â'r farchnad gwerthu tai

Mae papur newydd yr Independent yn ymchwilio i "gamgymeriad annerbyniol" wnaeth olygu bod neges sarhaus wedi ymddangos ar un o'i straeon ar-lein.

Fore ddydd Iau, cyhoeddodd y papur erthygl yn nodi'r 10 tref yn y DU lle roedd tai yn gwerthu gyflymaf.

Casnewydd ddaeth i frig y rhestr, gyda Wrecsam a Bae Colwyn hefyd wedi eu cynnwys yn y 10 uchaf.

Fodd bynnag, wrth glicio ar y stori, roedd geiriau sarhaus yn ymddangos ar gyfeiriad y wefan (URL), yn dweud "people-probably-wanted-to-sell-up-so-they-could-get-the-****-out-of-there".

Ymchwiliad

Dywedodd llefarydd ar ran yr Independent: "Roedd ymddangosiad yr URL yn gamgymeriad annerbyniol.

"Rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw dramgwydd achosodd hyn ac rydym yn cynnal ymchwiliad llawn i geisio sefydlu beth ddigwyddodd."

Roedd yr URL yn dal i'w weld am gyfnod brynhawn ddydd Iau, ond pwysleisiodd y papur fod y cyfeiriad wedi ei newid cyn gynted ag y daethon nhw'n ymwybodol o'r broblem.