Môn mewn 'sefyllfa gref' i gynnal Gemau'r Ynysoedd
- Cyhoeddwyd
Mae Ynys Môn mewn sefyllfa gryfach nag erioed i lwyfannu Gemau'r Ynysoedd, yn ôl trefnwyr y cais i ddenu'r digwyddiad i Gymru yn 2025.
Mae swyddogion y gemau ar ymweliad pedwar diwrnod â'r ynys i gael gweld y cyfleusterau a beth sydd gan Fôn i'w gynnig.
Dyw'r Gemau ddim wedi bod yng Nghymru o'r blaen, ond mae yna obaith gwirioneddol y bydd hynny'n newid ymhen saith mlynedd.
Byddai Gemau'r Ynysoedd yn gweld pedair mil o ymwelwyr yn heidio yno am wythnos o gystadlu mewn 14 o gampau gwahanol.
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal pob dwy flynedd rhwng 24 ynys sydd â phoblogaeth o lai na 150,000.
Yn ystod yr ymweliad bydd naw aelod o bwyllgor gwaith y gemau, dan arweiniad y cadeirydd Jorgen Pettersson, angen sicrwydd o allu'r ynys mewn tri maes allweddol - cyllid, cyfleusterau chwaraeon a llety.
Dywedodd cadeirydd pwyllgor cais Ynys Môn, Gareth Parry: "Rydym wedi bod yn ceisio dod â'r gemau i'r ynys am gyfnod a dyma'r sefyllfa gryfaf yr ydym wedi bod ynddi.
"Mae o yn ein dwylo ni i ddangos i'r pwyllgor gwaith ein bod nid yn unig yn gallu cynnal y gemau, ond cynnal y gemau gorau y maent wedi'u gweld.
"Rydym yn edrych ymlaen at ddangos treftadaeth, diwylliant a chymunedau'r ynys iddyn nhw yn ystod eu hymweliad a gadael effaith barhaol a fydd, gobeithio, yn arwain at benderfyniad y bydd Ynys Môn yn cynnal y Gemau yn 2025."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2017