Poen ffoaduriaid yng Nghymru am wahanu o'u teulu
- Cyhoeddwyd
Mae teulu sy'n byw yng Nghymru ar ôl ffoi o Syria wedi siarad am eu gofid am gael eu gwahanu oddi wrth eu merch a'u hŵyr saith oed.
Daeth Abo Mohammad a'i wraig Ghazwa Aljassem i'r DU yn 2016 gyda'u dau fab ar ôl ffoi o ddinas Homs bum mlynedd ynghynt.
Fe adawon nhw Syria wedi i'r rhyfel cartref ddechrau, ond fe gafon nhw eu gwahanu oddi wrth dri o'u plant a cholli rhai aelodau o'u teulu.
Mae eu merch Duaa, 23, a'i mab Hamsa yn Libanus ar hyn o bryd, ac mae eu merch wedi darganfod yn ddiweddar y bu farw ei gŵr yn 2013, ddwy flynedd ar ôl iddo gael ei arestio.
'Y teulu'n hollti'n ddarnau'
Dywedodd Mr Mohammad, sy'n byw yn Y Fenni, Sir Fynwy: "Fe gafodd ein hŵyr, Omar, ei fomio. Ar ôl hynny roedd wedi'i barlysu.
"Fe wnaethon ni ei gymryd i Ysbyty Americanaidd yn Libanus a gwario ffortiwn i'w helpu ond bu farw.
"Yna yn 2011 cafodd gŵr Duaa ei arestio a doedden ni ddim yn gwybod ble oedd e.
"Rydyn ni newydd gael llythyr yn dweud ei fod wedi marw ym mis Gorffennaf 2013, a bod rhywun angen mynd i gasglu ei dystysgrif marwolaeth.
"Bu farw fy mam a'm mrawd. Cafodd y teulu ei hollti'n ddarnau. Mae gen i frodyr a chwiorydd sy'n dal yn Syria, ond sydd ddim yn eu cartrefi."
Mae'r cwpl wedi siarad cyn ail ddarlleniad y Mesur Ffoaduriaid (Aduniad Teuluol) yn y Senedd yn San Steffan ddydd Gwener.
Pe bai'n cael ei wneud yn gyfraith, byddai'n galluogi i bobl fel Mr Mohammad a'i wraig gael eu haduno â'u merch a'u hŵyr.
"Mae hi'n fregus," meddai Mr Mohammad am ei ferch.
"Mae 'na lawer o bwysau, gyda'r unman i fyw a chael gwybod am farwolaeth ei gŵr.
"Does 'na ddim cefnogaeth o gwbl. Dim swyddi chwaith.
"Mae hi wedi bod yn yr ysbyty am bythefnos nawr. Mae hi'n wael, ac wedi bod yn wael o'r blaen, ond does dim arian ganddi i brynu meddyginiaeth."
Bywyd newydd yng Nghymru
Ychwanegodd bod ei ferch yn gorfod delio gyda hiliaeth yn Libanus.
"Os ydych chi'n dod o Syria maen nhw'n dweud wrthych chi i fynd 'nôl i'ch gwlad eich hun," meddai.
"Dydi Duaa ddim yn gallu cerdded y strydoedd ar ei phen ei hun. Gallai hi gael ei dilyn a'i bygwth."
Mae'r cwpl yn dweud eu bod wedi cael croeso yng Nghymru, ond eu bod yn ei chael yn anodd oherwydd sefyllfa eu merch a'i mab.
"Rydyn ni wedi cael llawer o gefnogaeth gan y bobl leol," meddai Mr Mohammad.
"Maen nhw wedi'n helpu ni i ddechrau bywyd yma, ond ble bynnag ydych chi'n byw, heb eich teulu fyddwch chi ddim yn hapus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2017