Cymeradwyo 15 cynllun addysg Gymraeg ar ôl ailgyflwyno
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau addysg Gymraeg 15 o gynghorau lleol.
Roedd hi'n statudol bod awdurdodau lleol yn cyflwyno eu cynlluniau ar gyfer addysg gyfrwng Cymraeg rhwng 2017 a 2020.
Ond pan gafodd y cynlluniau eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2016 cafodd y cwbl eu gwrthod.
Y rheswm, meddai'r llywodraeth, oedd nad oedden nhw'n mynd yn ddigon pell tuag at ei nod i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ailgyflwyno
Fe ddywedodd Comisiynydd y Gymraeg y llynedd fod yna "ddiffyg uchelgais" yn y cynlluniau gwreiddiol.
Rhybuddiodd y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) hefyd na fyddai'r taged miliwn yn cael ei wireddu oni bai eu bod yn cael eu newid.
Cafodd y cynghorau orchymyn i ailgyflwyno'r dogfennau, ac yn sgil hynny mae 15 o'r 22 wedi cael sêl bendith Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan.

Cafodd y cynlluniau drafft eu gwrthod gan y llywodraeth

Y cynghorau mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo eu cynlluniau yw:
Sir Benfro
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Caerffili
Caerdydd
Ceredigion
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Sir Gaerfyrddin
Gwynedd
Powys
Rhondda Cynon Taf
Wrecsam
Ynys Môn

Y saith sir sydd eto i gael eu cynlluniau wedi'u cymeradwyo yw Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy.
Dywedodd Eluned Morgan bod y gwelliannau "wedi sicrhau sylfaen fwy cadarn i'r gwaith o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg, sy'n adlewyrchu'n well yr uchelgais a nodwyd yn y ddogfen Cymraeg 2050 a'r gydnabyddiaeth bod addysg yn gyfrwng pwysig i newid."

Bydd y llywodraeth yn gweithio gyda'r saith awdurdod arall ar eu cynlluniau, meddai Eluned Morgan
Ychwanegodd ei bod yn ffyddiog y bydd modd gweithio gyda'r cynghorau eraill er mwyn dod i gytundeb ynglŷn â'r cynlluniau.
"Byddai nawr yn gofyn i bob awdurdod lleol lunio cynllun gweithredu yn seiliedig ar y targedau o fewn eu cynllun strategol, gan gynnwys y rhai hynny sy'n aros am gymeradwyaeth.
"Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â phawb i fonitro'r cynnydd a wneir ac i roi cymorth lle bo angen," meddai.
Croesawu'r cyhoeddiad mae RhAG, gan ddweud ei fod yn "cynnig eglurder" a'u bod yn falch bod y llywodraeth wedi gwrthod y cynlluniau cyntaf.
Dywedodd Wyn Williams, cadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg: "Pwyswn yn awr am fwy o fanylion gan y gweinidog ynglŷn â'r broses a'r amserlen i sicrhau bod yr holl siroedd yn cyflwyno cynlluniau o safon cyn gynted â phosibl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018