Agor 'stordy creadigol' mewn llyfrgell yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell Rhydaman

Fe fydd "Stordy Creadigol" - y cyntaf o'i fath mewn llyfrgell yng Nghymru - yn cael ei agor yn Rhydaman, gyda'r nod o ehangu apêl y llyfrgell draddodiadol.

Mae'r cynllun wedi cael ei ddatblygu ar ôl buddsoddiad o £72,000 gan Lywodraeth Cymru.

Fe fydd y Stordy Creadigol yn cael ei agor yn swyddogol gan y Gweinidog, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, ac fe fydd plant o Ysgol Gymraeg Rhydaman ymhlith y cyntaf i ddefnyddio'r offer digidol newydd sydd ar gael.

Yn ôl Wendy Tiffin o Lyfrgelloedd Sir Gâr mae'r stordy yn "le ble mae pobl yn gallu dod i greu pethau".

Fe fydd defnyddwyr yn medru cymryd taith o dan y dŵr yn y llyfrgell trwy ddefnyddio penwisg rhithwir neu virtual reality.

Disgrifiad,

Bydd ymwelwyr i'r llyfrgell yn gallu profi mynd dan ddŵr drwy wisgo penwisg rhithwir arbennig

Mae amrywiaeth o offer ar gael i ddefnyddwyr:

  • Argraffydd 3D a Modelu 3D;

  • Meddalwedd ac offer i drosi deunydd DVD/VHS;

  • Offer recordio sain a golygu sain;

  • Allweddellau Midi, offer DJ, meicroffonau;

  • Technoleg sgrîn werdd.

Ychwanegodd Ms Tiffin: "Mae'r arian wedi dod o Lywodraeth Cymru... ni'n ffodus iawn i gael y cyfleuster yma yn Rhydaman.

"Mae gyda nifer hen gemau cyfrifiadurol a'r virtual reality. Ni'n gwybod fod bechgyn ddim yn hoffi dod i lyfrgelloedd."

"Ni'n gobeithio denu nhw mewn fel bod nhw'n codi llyfr efallai. Wrth gael y pethau hyn, maen nhw'n gweld beth sydd o gwmpas."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y 'stordy creadigol' yn cael ei agor gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Fe all ymwelwyr sydd â dawn cerddorol ddefnyddio blwch recordio pwrpasol sydd wedi cael ei greu fel rhan o'r cynllun.

Dywedeodd Aled Richards o Gyngor Sir Gâr: "Hen gwpwrdd oedd e - ni wedi troi fe yn stiwdio ricordio.

"Mae 'da ni feddalwedd fel Garageband a Protools... gall pobl ddod i recordio demo... ni wedi cael dosbarth mewn ac maen nhw wedi bod yn mwynhau gwaeddu mewn i'r meicroffon yn y llyfrgell."

'Denu pobl ifanc'

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths, yr aelod o'r bwrdd gweithredol sydd â chyfrifoldeb am lyfrgelloedd: "Nid llyfrau yn unig sydd mewn llyfrgell, a'r bwriad yw agor y llyfrgelloedd mas fel petai.

"Da ni wedi gwario yn helaeth. Ni'n gobeithio denu pobl ifanc yn enwedig. Yn yr oes ddigidol, mae'r agwedd ddigidol llawn mor bwysig â llyfrau.

"Denu pobl mewn i'r llyfrgelloedd mewn gwahanol ffyrdd sydd yn bwysig."