Dros 200 o ysgolion ar gau oherwydd eira'r penwythnos

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Brynmawr ym Mlaenau Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae holl ysgolion Blaenau Gwent ar gau ddydd Llun gan gynnwys Ysgol Brynmawr

Mae dros 200 o ysgolion Cymru ar gau ddydd Llun wedi i eira trwm ddisgyn dros y penwythnos.

Fe achosodd yr eira drafferthion dros ran helaeth o'r wlad ddydd Sul, gan gau ffyrdd ac arwain at ganslo digwyddiadau a gwasanaethau trafnidiaeth.

Mae holl ysgolion Blaenau Gwent ar gau, a 50 o ysgolion Rhondda Cynon Taf.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn "byddwch yn ymwybodol" am rew ar draws Cymru gyfan rhwng 19:00 nos Lun a 9:00 bore Mawrth.

Mae yna berygl o rew ar ffyrdd, palmentydd a llwybrau seiclo sydd ddim wedi eu trin.

Mae rhestr o'r ysgolion ar gau ar wefannau'r cynghorau (dyw'r manylion ddim ar gael yn Gymraeg ar wefannau rhai o'r cynghorau):

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae map y Swyddfa Dywydd yn dangos rhybudd melyn o rew ar draws Cymru dros nos

Oherwydd yr eira, mae un ysgol wedi symud gwersi adolygu TGAU Mathemateg i sinema sy'n dyddio'n ôl i 1894.

Mae disgyblion Ysgol Brynmawr, Glyn Ebwy yn derbyn y wers yn Sinema Neuadd y Farchnad yn y dref.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid symud gwersi adolygu ar gyfer TGAU mathemateg disgyblion Ysgol Brynmawr i Sinema Neuadd y Farchnad

Dywedodd pennaeth yr ysgol, Mr James Retallick y byddai'n "brofiad dioddorol a gwerthfawr" i'r disgyblion.

Mae nifer o ffyrdd ar gau - yr A483 yn Nolfor ym Mhowys, Bwlch yr Oernant yn Sir Ddinbych, a'r A470 yng Ngellilydan yng Ngwynedd.

Dywedodd Maes Awyr Caerdydd, dolen allanol eu bod wedi gorfod gohirio 11 o hediadau fore Llun a bu'n rhaid i un awyren oedd i fod i lanio yno deithio ymlaen i Fanceinion.