Llywyddion newydd i undebau Cymraeg y myfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Anna Wyn sydd wedi cael ei hethol fel Llywydd UMCA am y flwyddyn 2018-19 yn dilyn wythnos o bleidleisio.
Bydd Anna'n dechrau yn y swydd ym mis Gorffennaf wedi iddi orffen ei gradd mewn Cymraeg Proffesiynol.
Mae Anna'n wreiddiol o Lanrug yng Ngwynedd, a hi yw Cadeirydd presennol UMCA. Mae hi hefyd yn arweinydd Côr Bechgyn Aelwyd Pantycelyn ac yn is-gapten tîm pel-rwyd merched Y Geltaidd.
Gethin Morgan, 21 oed o Lambed fydd Llywydd newydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UCMB) ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018-19. Mae'n astudio Cymraeg ac yn gobeithio graddio yr haf yma.
"Mae cael fy ethol fel Llywydd UMCB yn tipyn o fraint i mi a dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda myfyrwyr a'r brifysgol i wella profiadau myfyrwyr" meddai Gethin.
"O fis Medi ymlaen, bydd UMCB yn swyddogol yn rhan o Undeb Bangor ac felly dwi'n awyddus i gydweithio gyda staff yr Undeb ac i sicrhau lle blaenllaw i'r iaith Gymraeg."