Claf wedi'i ryddhau o ysbyty ddeuddydd cyn iddo farw
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed y bu farw dyn 42 oed o Ynys Môn ddeuddydd yn unig ar ôl i ysbyty fethu â chydnabod bod ganddo geuladau gwaed.
Bu farw Simon Willans o Fryngwran mewn ambiwlans ar y ffordd yn ôl i Ysbyty Gwynedd wedi iddo lewygu yng nghartref ei rieni ym mis Ionawr 2016.
Dywedodd y patholegydd Dr Mark Lord wrth y cwest yng Nghaernarfon bod coes dde Mr Willans wedi chwyddo o ganlyniad i thrombosis.
Dr Lord oedd wedi codi pryderon am farwolaeth Mr Willans gyda'r crwner ar ôl cynnal prawf post mortem arno.
Pryder am ofal
"Pe bai wedi'i adnabod cyn ei farwolaeth, mae triniaeth gwrthgeulol yn effeithiol," meddai wrth y cwest.
Hyd yn oed cyn y cwest, roedd pryderon am ofal Mr Willans yn Ysbyty Gwynedd wedi arwain i'r dirprwy grwner Nicola Jones gyflwyno adroddiad i atal rhagor o farwolaethau.
Dywedodd yr adroddiad hwnnw ei fod wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty gyda diagnosis o bwysedd gwaed isel a gorbryder.
Ar ddechrau'r cwest tri diwrnod ddydd Iau dywedodd meddyg teulu Mr Willans, Dr Huw Lloyd Evans, ei fod wedi gofyn i'r ysbyty ei drin fel achos brys, ond ei fod wedi cael ateb eu bod yn brysur iawn.
Cafodd ei weld y diwrnod canlynol, gyda symptomau ei fod yn fyr ei wynt, a'i fod wedi llewygu.
Dywedodd tad Mr Willans, Laurence, bod nyrs yn Ysbyty Gwynedd wedi dweud wrtho fod ei fab "dan bwysau", a'u bod yn awgrymu mai dyna oedd yn achosi iddo fod yn fyr ei wynt.
Profion
Dywedodd Ffion Simcox - nyrs wnaeth drin Mr Willans yn yr ysbyty - wrth y cwest: "Pan gyrhaeddodd yr uned roedd yn ymddangos allan o wynt rhyw ychydig, ond pan oeddwn i'n ei drin doedd o ddim."
Ond ychwanegodd ei bod wedi trefnu profion gwaed a sgan ar ôl gweld bod ei goes wedi chwyddo.
Ni wnaeth y profion hynny godi unrhyw bryderon mawr, a dywedodd ei bod wedi pasio'r canlyniadau ymlaen at feddyg.
Ychwanegodd ei bod wedi amau y gallai fod yn fwy difrifol, ond nad oedd yr awdurdod ganddi i ofyn am ragor o brofion.
Mae'r cwest yn parhau.