Cofio'r cerddor Gareth 'Chef' Williams

  • Cyhoeddwyd
chefFfynhonnell y llun, Angharad Griffiths

Ar Ddydd Llun 19 Mawrth fe ddaeth y newyddion bod y rapiwr a cherddor Gareth Williams wedi marw yn 39 oed.

Roedd 'Chef', fel roedd yn cael ei adnabod gan lawer, yn dod yn wreiddiol o Gaerfyrddin, ac yn bennaf adnabyddus am fod yn rhan o'r grŵp Tystion yn yr 1990au a 2000au cynnar.

Cafodd Cymru Fyw air gyda rhai o'r bobl a oedd yn 'nabod Chef orau.

Roedd Steffan Cravos a Chef yn ffrindiau am dros 25 mlynedd, ac roedden nhw yn perfformio gyda'i gilydd yn y grŵp Tystion:

"Y tro cynta' i mi gwrdd â Chef oedd yn 1992 lle roedden ni'n dau yn yr ysgol yng Nghaerfyrddin. Roedd Chef bedair blynedd yn iau na fi ond roedd y ddau ohonom ni yn 'smygu tu ôl i sied feics yr ysgol un amser cinio. Ro'n i wedi shoplifftio copi o gasét sengl Jump Around gan House of Pain ac roedden ni'n gwrando arno ar fy walkman.

"Dros y blynyddoedd nesaf roedden ni yn aml yn cwrdd mewn gigs dros orllewin Cymru ac yng nghlwb Riviera yng Nghaerfyrddin. Erbyn 1996 roedden ni'n recordio albwm stiwdio gyntaf Tystion a daeth Chef draw i rapio.

"Roedd Chef yn foi cŵl, golygus a fydde ni wastad yn cael laff. Ges i gymaint o hwyl yng nghwmni Chef dros y blynyddoedd - roedd e'n gymeriad hoffus ac yn gerddor talentog."

Ffynhonnell y llun, Mair Angharad Craig
Disgrifiad o’r llun,

Gareth 'Chef' Williams yn perfformio gyda Steffan Cravos yng Nglwb y Toucan, Caerdydd yn 2004

Mae un o aelodau eraill Tystion, Gruff Meredith, hefyd yn cofio pa mor ddawnus oedd Chef:

"Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Chef. Pleser oedd bod wedi cael ei 'nabod a gweithio efo fo dros y blynyddoedd.

"Roedd o'n dalentog ac yn ddidwyll ac yn rhoi blas arbennig ei hun ar fywyd ac ar eiriau a sŵn geiriau, yn naturiol a heb ffỳs.

"Er mai ei enw oedd Gareth Williams, mi hefyd fedyddiodd un o'r enwau MC gorau erioed i'w hun, MC Chef. Diolch am bopeth Chef."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tystion yn perfformio ac yn cynhyrchu cerddoriaeth rhwng 1996 a 2002

Mae Emyr Williams o label Anskt hefyd yn nodi cyfraniad Chef i gerddoriaeth fodern Cymru:

"Mi oedd fy mherthynas i gyda'r Tystion yn pontio'r cyfnod cynnar eithaf cythryblus 'na gyda Sleifar (Steffan Cravos) a G Man (Gruff Meredith) yn ffeirio raps, gyda'r ddau ambell waith yn ceisio tynnu'r grŵp i gyfeiriadau gwbl groes i'w gilydd, ond pan ddaeth TystionMk2 i fodolaeth o'n i'n medru gweld fod y dyn hoffus yma - Gareth - Chef - wedi llwyddo rhywsut i ddod â lot fawr o heulwen i fewn i'r band, a ffocws i gynlluniau Sleifar a oedd ar goll o'r blaen.

"Bellach mi oedd yr holl beth yn gweithio'n lot fwy fel collective gyda doniau a syniadau a chyfraniadau yn llifo i mewn ac allan o'r miwsig yn ddi-ffỳs a gyda theimlad lot fwy naturiol a llai cartoonish ac ymosodol.

"Dwi'n meddwl fod lot fawr o hyn yn ymwneud â phresenoldeb Chef a'r berthynas glos gyda Steffan, y syniad yma o ffrindiau yn ail-greu rhywbeth o back in the day a bwydo hwnna i fewn gyda'r holl gynhwysion eraill oedd yn ffrwtio ar y tân er mwyn creu gwaith arbennig fel y clasur hip-hop Cymraeg 'Hen Gelwydd Prydain Newydd'.

"Mae dod ar draws rhywun sydd mor ddi-ffỳs a bodlon gyda chyfrannu a rhannu, a oedd hefyd yn foi ifanc gwbl hyfryd, yn rhywbeth eithaf prin ac o siarad gyda phobl ers clywed y newyddion trist am ei farwolaeth dwi'n gwybod fod llawer iawn yn rhannu'r farn yma."

Ffynhonnell y llun, Angharad Blythe

Roedd y cynhyrchydd teledu Angharad Blythe hefyd yn ffrindiau gyda Chef:

"I mi, mae Chef yn gysylltiedig efo un o gyfnodau mwya' gwirion a gwyllt fy 'mywyd i - y 2000au cynnar, lle oedd Caerdydd yn fwrlwm o gerddoriaeth ac asbri newydd. Ac wrth gwrs, mi oedd Chef reit ynghanol yr hwyl.

"Roedd o fel plentyn mewn rhai ffyrdd - yn byw bywyd yn yr eiliad ac i'r eithaf, ac yn gweld y rhyfeddod ym mhopeth. Roedd o'n ystyried pawb yn ffrind, yn meddwl y gorau o bawb ac yn chwerthin o hyd.

"Chef oedd un o'r eneidiau anwylaf imi gael y fraint o'u hadnabod ac mae'n chwith meddwl nad ydi o yn y byd 'ma, bellach."