Ynys Môn 'ar agor i fusnes' wedi difrod Storm Emma
- Cyhoeddwyd
Mawrth a ladd, Ebrill a fling - dyna'r ddihareb. Yn sicr ddaeth y mis yma ddim i mewn fel oen, felly'r gobaith ydy na fydd o'n ein gadael ni fel llew wrth i'r Pasg agosáu.
Mae'n dair wythnos ers i Storm Emma achosi dinistr ym Marina Caergybi, gyda pholystyren oedd yn cynnal y llwybrau troed yno wedi dod yn rhydd a lledaenu ar hyd tua 20 milltir o arfordir Ynys Môn.
Ar drothwy gwyliau'r Pasg, mae 'na bryder am effaith y drychineb ar y diwydiant ymwelwyr, wrth i ddarnau bach o'r polystyren barhau i olchi i'r lan.
Ond mae 'na ymgyrch fawr wedi bod i'w glirio a phobl Môn yn benderfynol bod yr ynys yn barod i groesawu twristiaid.
'Trychineb ofnadwy'
Yn ôl y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, sy'n cynrychioli Ynys Cybi a Threarddur, mae'r polystyren yn dal yn amlwg ar hyd traethau'r ardal.
"Mae'r polystyren wedi torri lawr rŵan i beli bychain sy'n anodd iawn i'w casglu. Mae wedi bod yn amlwg hyd y traethau - Porth yr Afon, Porth y Post a'r bae mawr yn Nhrearddur.
"Dwi'n credu bydd y polystyren gyda ni am beth amser eto - 10 mlynedd efallai, pwy â ŵyr?
"Dwi'n ddiolchgar iawn i'r cyngor sir, i'r contractwyr sydd wedi bod yn glanhau'r traethau. Mae pobl leol wedi bod yn gwneud hefyd, ac ymwelwyr sydd wedi bod yma."
I'r gogledd o Gaergybi, mae perchennog Parc Carafannau Penrhyn yn Llanfwrog, Rob Williams yn dweud ei bod yn drasiedi bod hyn wedi digwydd mor agos at ddechrau'r tymor gwyliau.
"Pan ddaw'r bobl yma i aros, y peth diwetha' ydan ni isho ydy iddyn nhw weld y polystyren 'ma i gyd ar y lan môr."
Ychwanegodd: "Yr unig beth fedra' i ddweud ydy diolch yn fawr iawn i'r bobl sydd wedi rhoi eu hamser i wneud hyn - maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth ofnadwy.
"Unwaith mae'r gwynt yn newid cyfeiriad i'r ffordd mae'n chwythu fel arfer, mi ddaw'r polystyren yn ôl at ein traethau ni yn fama.
"Mae un neu ddau o'r bobl sy'n aros yma wedi sylwi bod 'na lot o bolystyren - ond oedda' nhw 'di gweld ar y newyddion a sylweddoli bod hi yn drychineb ofnadwy - nid dim ond i'r amgylchedd ond i borthladd fel Caergybi."
Gallai'r effeithiau bara blynyddoedd, ond mae'r Cynghorydd Carwyn Jones - sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd, twristiaeth a morwrol ar Gyngor Môn - yn hapus gyda'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma.
Dywedodd bod "miliynau" o beli bach polystyren wedi eu casglu: "'Da ni 'di gwario miloedd o adnoddau'r cyngor a hwn ddim yn bres 'da ni wedi'i gyllido amdano fo.
"Ond 'da ni ddim yn mynd i ddisgwyl am iawndal, 'da ni'n mynd ati'n syth gan bod y sector twristiaeth mor bwysig i ni ac ein arfordir môr bwysig i ni hefyd."
Ychwanegodd Mr Jones: "Does dim angen poeni o gwbl - mae'n fusnes fel arfer yma ym Môn, dydy hyn wedi stopio dim arnon ni.
"Mae'r traethau i gyd yn agored, yr arfordir i gyd yn agored, lle i gerdded, mynd i lan y môr, ma' bob dim yr un fath ag arfer.
"Yr unig beth 'da ni'n gobeithio amdano fo ydy y cawn ni dywydd braf."
Agwedd obeithiol sydd 'na ym Môn felly wrth edrych tua'r Pasg a dechrau'r tymor ymwelwyr, a'r ynys yn benderfynol o drechu effeithiau'r elfennau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2018