Polystyren Caergybi: Cyngor Môn yn mynd ati i lanhau

  • Cyhoeddwyd
Marina Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dŵr wedi cael ei droi'n wyn gan filiynnau o ddarnau bach o bolestyrene

Mae Cyngor Ynys Môn wedi dweud y byddan nhw'n cynyddu eu hymdrechion i lanhau traethau sydd wedi eu gorchuddio gyda pholystyren ers Storm Emma.

Cafodd 80 o gychod eu difrodi ac fe suddodd rhai wrth i'r storm daro harbwr Caergybi yr wythnos ddiwethaf.

Fe wnaeth hyn arwain at swm sylweddol o lygredd, gan gynnwys y polystyren, yn dianc o'r porthladd.

Dywedodd y cyngor eu bod wedi gweithio'n agos gyda Gwylwyr y Glannau, perchnogion y marina a Stena - awdurdod y porthladd - ers y "digwyddiad trychinebus yma".

Ffynhonnell y llun, Jonathan Fox
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r polystyren wedi teithio hyd at 18 milltir o'r marina

Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth dyn a gollodd ei gartref pan gafodd ei gwch ei ddinistrio gyhuddo'r awdurdodau o fethu â gwneud dim i'w helpu.

Mae Gwylwyr y Glannau yn dweud bod ardal tua 18 milltir o hyd ar yr arfordir rhwng Caergybi a Rhosneigr wedi'i effeithio.

Mae ardal arall tua wyth milltir o hyd rhwng Caergybi a Thrwyn y Gader â pholystyren arno hefyd.

Disgrifiad,

Cafodd nifer o gychod eu difrodi yn y storm yr wythnos diwethaf

Dywedodd prif weithredwr y cyngor, Gwynne Jones, sy'n cadeirio tasglu arbennig i reoli'r gwaith mai eu prif flaenoriaeth yw "gwarchod traethau a bywyd gwyllt rhag y llygredd polystyren".

"Mae'n rhaid i ni gasglu a gwaredu'r polystyren yma cyn gynted â phosib," meddai.

"Mae contractwyr arbenigol Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau eisoes wedi cynnal arolygon o'r traethau er mwyn rhoi darlun cynhwysfawr i ni o ble mae'r polystyren wedi'i olchi i'r lan."

Mae'r cyngor yn annog trigolion i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i gysylltu os ydyn nhw'n gweld mwy o ardaloedd sydd â pholystyren arno.