Rhieni Kiara yn gofyn i blant fynd i'w hangladd
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni y ferch fach ddwy oed a foddodd wedi i gar ei mam lithro i'r afon yn Aberteifi yn galw ar blant i ddod i'w hangladd ac iddynt wisgo dillad lliwgar.
Dywedodd rhieni Kiara Moore eu bod am i angladd eu merch fod yn "llachar a hardd" ac maent yn galw ar alarwyr i wisgo dillad lliwgar er mwyn creu "dathliad hapus".
Bydd yr angladd yn cael ei gynnal yn Amlosgfa Parc Gwyn yn Arberth, Sir Benfro ddydd Mawrth, Mawrth 27 ac wedyn fe fydd dathliad ger cartref y teulu yn nhafarn Ffostrasol ger Llandysul.
Cafwyd hyd i Kiara yn afon Teifi brynhawn Llun a bu farw yn ddiweddarach yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae tad Kiara, Jet Moore, wedi codi £1,000 o bunnau i Ambiwlans Awyr Cymru ar-lein, ac wedi estyn gwahoddiad cyhoeddus "i'r parti i ddathlu ei bywyd".
Dathliad hapus
Mewn neges ar Facebook mae e wedi ysgrifennu: "Fe fyddwn i, Kim a'r teulu yn hoffi eich gwahodd i gyd i angladd a pharti i ddathlu ei bywyd hapus a'i phen-blwydd!
"Dewch â phlant os y gallwch! (dathliad hapus fydd e)."
Gwisgwch ddillad "llachar a hardd" sy'n "hwyl".
Mae yna gais i'r rhai sy'n mynd i anfon neges ac fe ddywedd Jet Moore hefyd bod y teulu yn gobeithio sefydlu cronfa i helpu pobl sy'n dioddef o afiechyd meddwl.
Yn lle blodau bydd arian yn cael ei roi i elusennau amgylcheddol.
Ymholiadau'n parhau
Yn y cyfamser credir bod swyddogion arbenigol yn ceisio canfod a oedd botwm brêc electronig y Mini wedi'i weithredu cyn i'r car lithro lawr y llwybr concrid sy'n cael ei ddefnyddio gan gaiacau i fynd i'r dŵr.
Mae heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod eu hymholiadau yn parhau ac maent wedi rhybuddio yn erbyn "sylwadau maleisus" ar-lein.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2018