Cost plismona ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn £5.7m

  • Cyhoeddwyd
Police and football fans in Cardiff ahead of the Champions League finalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dirprwy Brif Gwnstabl yn gobeithio y bydd swyddogion yn edrych yn ôl ar eu gwaith gyda balchder

Mae ffigyrau newydd yn datgelu ei bod wedi costio £5.7m i blismona rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd fis Mehefin y llynedd.

Fe ddaeth hanner yr arian o goffrau'r Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Roedd 1,556 o swyddogion Heddlu De Cymru ar ddyletswydd rhwng 30 Mai a 4 Mehefin ac fe wariwyd £2.1m o gyllideb Heddlu'r De ar y gwaith.

Mae cyllideb blynyddol Heddlu'r De yn £262.7m.

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Lewis fod cefnogwyr a chwaraewyr wedi cael "croeso Cymreig go iawn ac wedi cael cyfle i brofi lletygarwch y brifddinas".

Daeth 300,000 o gefnogwyr i Gaerdydd i weld Real Madrid yn trechu Juventus o 4-1.

Cafodd saith o bobl, a oedd yn gysylltiedig â'r gêm eu harestio - pump am dwyll tocynnau, un am yfed a gyrru ac un am dor heddwch.

Roedd yna bresenoldeb "sylweddol" o heddlu yng Nghaerdydd ar y dydd Sul wedi'r gêm derfynol oherwydd bod ymosodiad terfysgol wedi bod yn Llundain y noson gynt.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Heddlu'r De bod eu dull o blismona wedi bod yn "gyfeillgar"

Ychwanegodd Richard Lewis: "Mae ein dull o blismona yma yn ne Cymru yn broffesiynol ond yn gyfeillgar - rhywbeth ry'n wedi bod yn hynod falch ohono a rhywbeth yr oedd y cyhoedd hefyd yn ei hoffi.

"Ry'n yn derbyn bod rhai busnesau a phreswylwyr wedi wynebu peth aflonyddu angenrheidiol ac fe fydden yn hoffi diolch iddyn nhw am helpu'r ddinas i gynnal y digwyddiad chwaraeon mwyaf yn y byd yn 2017.

"Wrth edrych yn ôl ar raddfa a llwyddiant y plismona, rwy'n gobeithio bod ein swyddogion yn cofio am eu dyletswyddau y llynedd gyda balchder."

Mae union ffigyrau y gost y plismona newydd gael eu cyhoeddi.

Derbyniodd Heddlu'r De grant o £1.95m gan Lywodraeth Cymru, £1.4m gan y Swyddfa Gartref a £263,708 gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Roedd 2,900 o blismyn ychwanegol o luoedd eraill ar ddyletswydd yn ystod y dyddiau o gwmpas y rownd derfynol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl bod swyddogion wedi gweithio "oriau hir" ac er eu bod wedi gorfod canslo gwyliau eu bod wedi parhau i fod yn broffesiynol a chyfeillgar