Jeremy Corbyn yn diswyddo AS Pontypridd, Owen Smith
- Cyhoeddwyd

Mae Owen Smith wedi cael ei ddiswyddo o fainc flaen Llafur gan Jeremy Corbyn wedi iddo alw am ail refferendwm ar Brexit.
Mr Smith oedd Ysgrifennydd Cysgodol Gogledd Iwerddon, a Tony Lloyd fydd yn cymryd ei le ar unwaith.
Dywedodd Mr Smith ar Twitter: "Newydd gael y sac gan Jeremy Corbyn oherwydd fy marn ar y difrod y bydd Brexit yn ei wneud i gytundeb Gwener y Groglith ac i economi'r DU gyfan.
"Mae'r farn honno'n cael ei rannu gan aelodau a chefnogwyr Llafur, ac fe fyddai'n parhau i siarad drostyn nhw, ac er budd ein gwlad."
Cefnogi'r farchnad sengl
Roedd Mr Smith wedi galw am bleidlais arall pan fydd y trafodaethau rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd wedi'u cwblhau.
Mewn erthygl i bapur newydd y Guardian, roedd hefyd wedi galw ar Lafur i gefnogi aelodaeth o'r farchnad sengl.

Aeth Jeremy Corbyn ac Owen Smith benben am arweinyddiaeth Llafur yn 2016
Mewn datganiad dywedodd Mr Corbyn: "Mae Tony [Lloyd] yn weinidog profiadol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn parhau a gweld y cytundeb datganoli yn ôl ar y cledrau."
Fe wnaeth Mr Smith adael ei rôl fel Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yr wrthblaid yn 2016 i herio Mr Corbyn am arweinyddiaeth Llafur.
Cafodd ei benodi i'r rôl yng Ngogledd Iwerddon ym mis Mehefin 2017 ar ôl methu yn ei ymgais i fod yn arweinydd y blaid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2016