£56m i wella amddiffynfeydd llifogydd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn buddsoddi £56m i atgyfnerthu amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol ar draws Cymru.
Bydd yr ardaloedd fydd yn elwa o'r rhaglen - Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol - yn cael eu blaenoriaethu ar sail risg gan ystyried ffactorau fel tebygolrwydd ac effaith llifogydd a digwyddiadau blaenorol.
Mae'r llywodraeth yn disgwyl i dros 6,500 o adeiladau elwa o'r cynlluniau fydd yn cael eu gweithredu dros y flwyddyn nesaf.
Bydd awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn derbyn cyllid ar gyfer cyflwyno cynlluniau rheoli perygl llifogydd er mwyn gwarchod pobl, eiddo a busnesau.
Y gobaith yw y bydd manteision ehangach ynghlwm wrth lawer o'r cynlluniau gan gynnwys gwelliannau i gynefinoedd, manteision o ran hamdden a lleihau perygl i'r seilwaith.
Lle fydd yn elwa?
Ymysg y cynlluniau newydd fydd yn cychwyn mae:
Amddiffynfeydd llifogydd Machynys yn Llanelli;
Lecwydd yng Nghaerdydd;
Gwaith ar lanw'r afon yn Nhregatwg;
Llansannan a Mochdre yng Nghonwy;
Llanberis yng Ngwynedd;
Llanmaes ym Mro Morgannwg;
Parc yr Onnen yn Aberystwyth;
Cronfa Ddŵr Llyn Tegid, Gwynedd.
Dywedodd Gweinidog yr Amglchedd, Hannah Blythyn, AC: "Rydym yn buddsoddi mewn cynlluniau newydd a gwaith cynnal a chadw ar raddfa fawr ar draws Cymru.
"Rwyf hefyd wedi gwarchod cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer gweithgareddau rheoli perygl llifogydd dros y flwyddyn ariannol nesaf, ac wedi ymrwymo i gyllido Canolfan Monitro Arfordirol newydd Cymru a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o brosesau arfordirol ac yn cyfrannu at well penderfyniadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2014