Beti George i dderbyn Gwobr Cyfraniad Oes John Hefin

  • Cyhoeddwyd
Beti George

Cyhoeddodd Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin mai'r gyflwynwraig Beti George fydd yn derbyn Gwobr Cyfraniad Oes John Hefin 2018.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi er cof am y cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr drama, fu farw yn 2012.

Mae'n cael ei rhoi i unigolyn fel cydnabyddiaeth o oes o waith ym maes y cyfryngau, teledu, ffilm neu theatr yng Nghymru.

Dyma'r drydedd flwyddyn i'r wobr gael ei rhoi, a bydd Beti George yn olynu Euryn Ogwen Williams gafodd y clod yn 2016, ac Endaf Emlyn yn 2017.

'Cydnabyddiaeth haeddiannol'

Dywedodd Kelvin Guy, sylfaenydd a phrif weithredwr yr ŵyl a'r wobr, fod Beti George yn haeddu'r gydnabyddiaeth: "Mae hi wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers dros 40 mlynedd, ac efallai nad yw hi wedi cael y gydnabyddiaeth y mae hi'n ei haeddu tan nawr."

Bydd seremoni i gyflwyno'r wobr i Beti George yn cael ei chynnal yng Ngŵyl ffilm Bae Caerfyrddin yng ngwesty'r Stradey Park, Llanelli, ddydd Iau 17 Mai.

Hon fydd y seithfed ŵyl, sydd â'r nod o hyrwyddo a chefnogi'r diwydiant ffilmiau, yn enwedig yng Nghymru.