M4: Diwrnod olaf ymchwiliad cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
M4 Sign

Bydd yr ymchwiliad cyhoeddus i ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd yn dod i ben ddydd Mercher wedi 11 mis.

Fe dderbyniodd yr ymchwiliad 335 o wrthwynebiadau ffurfiol, a 192 llythyr o gefnogaeth.

Ar y diwrnod olaf fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud eu sylwadau cloi.

Mae nifer o gyrff amgylcheddol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, yn erbyn y ffordd newydd.

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru am adeiladu rhan newydd 14 milltir o hyd i'r M4 i'r de o Gasnewydd. Byddai hynny'n golygu pont newydd dros Afon Gwy ac adnewyddu cyffyrdd 23 a 29 o'r M4 presennol.

Y nod yw lliniaru problemau traffig ar y draffordd i'r gogledd o'r ddinas, yn enwedig yng nghyffiniau twnnelau Brynglas.

Mae cefnogwyr yn dweud y bydd hyn yn rhoi hwb i'r economi drwy wella mynediad i gludiant nwyddau i mewn ac allan o dde Cymru.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o'r ffordd newydd

Roedd tri llwybr posib i'r ffordd, ond y "llwybr du" gafodd ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru. Cafodd ymchwiliad cyhoeddus ei gyhoeddi gan Ken Skates AC yn 2016 er mwyn ystyried a oedd y llwybr du yn cynnig gwerth am arian.

Mae'r gost wedi bod yn un maen tramgwydd.

Yn 2015 fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones ddarogan na fyddai'r ffordd newydd yn costio "unman yn agos" at £1bn, ond mae amcangyfrif presennol y gost wedi codi i £1.4bn.

Tra bod yr ymchwiliad wedi clywed tystiolaeth y bydd buddion y ffordd newydd yn werth mwy na'r gost o'i hadeiladu, mae arbenigwyr eraill wedi cynnig y dylai'r ffordd gynnwys tollau er mwyn talu rhywfaint o'r gost.

Amgylchedd

Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud bod rhai materion o bryder wedi'u datrys, roedden nhw o'r farn fod yr effaith ar Lefelau Gwent yn rhy fawr.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent y byddai'r cynllun yn "rhwygo" yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel "coedwig law Amazon Cymru", a dywedodd Ymgyrch Ddiogelu Cymru Wledig y byddai'r ffordd yn niweidio "tirlun hanesyddol Cymru".

Cynsail peryglus?

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, yn gwrthwynebu'r cynllun, a dywedodd y gallai gweinidogion fod yn gosod "cynsail peryglus" yn y modd y maen nhw wedi dadansoddi Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol.

"Dydw i ddim yn cytuno gyda'r gosodiad sylfaenol mai dyma'r 'ateb mwyaf cynaliadwy, tymor hir i'r problemau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sy'n gysylltiedig â'r ffordd yma'," meddai.

O ran gwleidyddion, mae arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies wedi dweud nad yw'n fodlon "arwyddo siec wag" ar gyfer y cynllun.

Cyn etholiad y Cynulliad dywedodd Plaid Cymru a UKIP eu bod yn ffafrio'r llwybr glas, ond mae UKIP ers hynny wedi dweud y gallen nhw gefnogi'r llwybr du.

Cyn yr etholiad roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu'r ffordd yn llwyr oherwydd y gost.

Beth fydd nesa?

Bydd yr archwiliwyr yn cyflwyno'r canlyniadau i Lywodraeth Cymru. Ni fydd eu hargymhellion yn clymu'r penderfyniad..

Fe gafodd BBC Cymru wybod yn gynharach eleni y bydd ACau yn cael pleidlais ar y cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru i'r de o Gasnewydd, ond eto ni fydd y Llywodraeth yn cael ei chlymu gan y bleidlais.

Os fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu bwrw 'mlaen gyda'r cynllun, fe allai'r gwaith adeiladu ddechrau yn yr hydref, ac fe allai gymryd pum mlynedd i gwblhau'r gwaith.