Adnewyddu un o brif theatrau Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae un o brif theatrau Cymru, Theatr y Werin yn Aberystwyth, yn cau ei drysau am y tro er mwyn iddi gael ei gwedd-newidiad.
Bydd system drydanol, goleuadau, seddi a charpedi newydd yn cael eu rhoi yn y theatr ar gost o £750,000.
Dyma'r newid mwyaf i'r theatr, sy'n gallu dal 300 o bobl, ers iddi agor yn 1972.
Gan fod y gwaith yn mynd i gymryd hyd at chwe mis i'w gwblhau, bydd pabell fawr yn cael ei gosod tu cefn i'r Ganolfan er mwyn llwyfannu rhaglen haf Canolfan y Celfyddydau.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth:
"Mae'r theatr yn un o theatrau mwyaf eiconic Cymru a dros y blynyddoedd dyw'r gwaith cynnal a chadw digonol heb gael ei wneud, a 'da ni 'di cyrraedd pwynt lle mae rhaid i ni ail edrych ar yr holl system.
"Does neb eisiau cau theatr yn amlwg, ond mi fydd holl elfennau eraill y ganolfan ar agor - mi fydd y Neuadd Fawr, mi fydd y stiwdio, mi fydd y sinema ac yn y blaen.
"'Da ni wrth ein bodd bod hwn yn dangos bod y Brifysgol yn dangos ffydd mawr yn y celfyddydau yn y rhan yma o'r byd.
"Er y bydd y Theatr eiconig hon ar gau dros yr haf, bydd rhaglen wych o ddigwyddiadau eraill mewn lleoliadau eraill o fewn Canolfan y Celfyddydau, llawer ohonynt yn y babell fawr ar Gwrt y Capel ym mis Awst."