Eisteddfod Caerdydd: Geraint Jarman a Bryn Terfel i berfformio

  • Cyhoeddwyd
Syr Bryn
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Syr Bryn Terfel yn ôl ar lwyfan y Pafiliwn am y tro cyntaf ers degawd

Mae cyngherddau gan Syr Bryn Terfel a Geraint Jarman, cystadleuaeth farddol "fwya'r mileniwm" a chynhyrchiad newydd o hen ffefryn ymysg arlwy rhaglen nos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Am y tro cyntaf, bydd dau berfformiad o gyngerdd agoriadol yr Eisteddfod eleni, gyda Syr Bryn yn serennu mewn biopic o fywyd yr actor a'r canwr, Paul Robeson.

Gyda'r Eisteddfod ym Mae Caerdydd eleni, bydd Geraint Jarman yn rhan o Gig y Pafiliwn ar y nos Fawrth, ynghyd â Band Pres Llareggub a Cherddorfa'r Welsh Pops.

Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm fydd y pafiliwn, sydd wedi galluogi i'r trefnwyr fod yn "fwy beiddgar ac anturus".

Amserlen y Cyngherddau:

  • Nos Wener a Nos Sadwrn 3-4 Awst: "Hwn yw fy Mrawd: Paul Robeson - Arwr i Gymru, Arwr i'r Byd" gyda Syr Bryn Terfel ac artistiaid eraill;

  • Bore Sul 5 Awst: Cymanfa Ganu;

  • Nos Sul 5 Awst: "Teilwng yw'r Oen" gyda Rebecca Trehearn, Mirain Haf a Daniel Lloyd;

  • Nos Lun 6 Awst: Y Siwper Stomp - cystadleuaeth farddol yn cynnwys perfformiadau dwys a digri';

  • Nos Fawrth 7 Awst: Gig y Pafiliwn - Huw Stephens yn cyflwyno noson gyda Geraint Jarman, Band Pres Llareggub ac eraill;

  • Nos Iau 9 Awst: Pendevig - aelodau o fandiau fel Calan, Mabon a Plu yn cyflwyno cyfuniad gerddoriaeth draddodiadol, jazz, funk a drum'n'bass.

Eisteddfod 'gwahanol ac amgen'

Yn ogystal â'r cyngherddau, bydd cynhyrchiad newydd o sioe Teilwng yw'r Oen yn cael ei llwyfannu nos Sul.

Dyma gyngerdd Côr yr Eisteddfod eleni, fydd hefyd yn perfformio addasiadau o ganeuon pop Cymraeg wedi'u cyfuno gyda rhai o alawon mwyaf adnabyddus y byd clasurol.

Unawdwyr y noson fydd Rebecca Trehearn, Mirain Haf a Daniel Lloyd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Geraint Jarman ei fagu yng Nghaerdydd, lleoliad y brifwyl eleni

Ar y nos Lun bydd perfformiadau "dwys a digri" gyda'r gynulleidfa wrth y llyw, wrth i "noson o farddoniaeth, cerddoriaeth ac ambell syrpreis" y Siwper Stomp gyrraedd y pafiliwn.

Newid i fore Sul

Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol bydd yr Oedfa fore Sul yn cael ei chynnal yn y Babell Lên, gyda'r Gymanfa Ganu yna'n digwydd yn y pafiliwn.

I gloi'r rhaglen, grŵp Pendevig - aelodau o grwpiau fel Calan, Mabon a Plu - sy'n cyflwyno "cyfuniad unigryw o gerddoriaeth draddodiadol, jazz, funk a drum'n'bass".

Dywedodd trefnydd yr ŵyl, Elen Elis, ei bod yn "arbennig o falch" o'r rhaglen eleni, a bod lleoliad y pafiliwn "wedi ein galluogi i fod yn fwy beiddgar ac anturus".

"Dyma gyhoeddiad mawr cyntaf Eisteddfod Caerdydd, sydd yn mynd i fod yn ŵyl ychydig yn wahanol i'r arfer oherwydd ei natur arbrofol a threfol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Yng Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd fydd pafiliwn yr Eisteddfod eleni

"Ond wedi dweud hynny, mae Bae Caerdydd yn lleoliad ardderchog ar gyfer y Maes, a'r cyfuniad o adeiladau eiconig parhaol yr ardal fel Canolfan Mileniwm Cymru, Y Senedd ac Adeilad y Pierhead gyda strwythurau deniadol dros dro fel yurt y Tŷ Gwerin a tepees Caffi Maes B yn mynd i fod yn hynod gyffrous.

"Mae hefyd yn gyfle i ni edrych ar yr Eisteddfod mewn ffordd wahanol ac amgen, ac rwy'n edrych ymlaen at groesawu pawb i'r Bae ymhen pedwar mis ac i glywed sylwadau a barn ein hymwelwyr ar yr arbrawf."

Bydd tocynnau'r cyngherddau yn mynd ar werth ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol am 10.00, ddydd Mawrth 3 Ebrill.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd rhwng 3-11 Awst.