Eisteddfod i 'dalu am unrhyw ddifrod' i dir gwersylla
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid gwario miloedd o bunnau ar adfer caeau chwarae Pontanna yn dilyn ymweliad y Brifwyl yno yn 2008
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud mai'r brifwyl fydd yn talu os bydd yna ddifrod i gaeau Pontcanna yng Nghaerdydd ym mis Awst eleni.
Roedd Elfed Roberts yn ymateb i bryderon yn lleol ynglŷn â gosod y maes carafannau a'r maes ieuenctid yno.
Roedd yna ddifrod sylweddol wedi i'r Eisteddfod gyfan gael ei chynnal ar y caeau yn 2008., dolen allanol
Y tro hwn, y maes carafannau a'r maes ieuenctid yn unig fydd yno, tra bod y Maes ei hun yn y Bae.

Cafodd preswylwyr Pontcanna gyfle i edrych ar gynlluniau'r Brifwyl ar gyfer y caeau yn ystod cyfarfod nos Fawrth
Mewn cyfarfod ym Mhontcanna ddydd Mawrth, roedd yna gyfle i bobl leol drafod eu pryderon gyda swyddogion yr Eisteddfod.
Dywedodd criw bychan eu bod yn poeni am y difrod posibl, ar ôl y llanast a gafodd ei achosi yn ystod mis Awst 2008.
Yn ôl Nerys Lloyd-Pierce sy'n byw yn lleol, doedd dim modd defnyddio'r caeau chwarae am ddwy flynedd wedi i'r Brifwyl fod yno.
Yn 2008 cafodd ceir eu hatal rhag mynd a dod o'r maes carafannu wedi i'r tywydd droi, dolen allanol, a hynny yn dilyn cytundeb rhwng trefnwyr y Brifwyl a Chyngor Caerdydd.
Wrth ymateb i sylwadau'r rheiny a ddaeth i'r cyfarfod nos Fawrth dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, nad oedd modd lleddfu ofnau'n llwyr ond y byddai'r Eisteddfod yn "llawer iawn llymach nag arfer" wrth adael i geir fynd a dod o'r maes carafannau eleni a phe byddai yna ddifrod, yr Eisteddfod fyddai'n talu.

"Nid ar chwarae bach benderfynon ni ddod i gaeau Pontcanna" meddai.
Dywedodd Cyngor Caerdydd y bydd yr hyn sy'n digwydd ar gaeau Pontcanna ym mis Awst yn wahanol iawn i'r hyn oedd yno ddeng mlynedd yn ôl.