Theresa May yng Nghymru ar daith blwyddyn nes Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae'r prif weinidog wedi dweud ei bod eisiau "cryfhau'r cysylltiadau sy'n uno" Cymru a'r DU, wrth iddi nodi blwyddyn i fynd nes i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd Theresa May yn cwrdd â chwmnïau yn Y Barri ddydd Iau fel rhan o daith ledled y DU.
Gyda Llywodraeth y DU yn trafod â gweinidogion Cymru dros bwerau'r Cynulliad ar ôl Brexit, bydd yn dweud ei bod "wedi ymrwymo" i ddatganoli.
Ond dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones y byddai cynllun Brexit Mrs May yn "gwneud difrod sylweddol i'n heconomi".
'Neb yn cael popeth'
Mae Llywodraeth Cymru eisiau i'r DU aros ym marchnad sengl ac undeb dollau'r UE, sy'n gweld pob gwlad yn gosod yr un tollau mewnforio ar nwyddau o du allan i'r undeb.
Mewn araith yn gynharach yn y mis fe wnaeth Mrs May ailadrodd ei bwriad i adael y farchnad sengl a'r undeb dollau, wrth iddi alw am gytundeb masnach rydd fyddai'n gweithredu ar gyfer y mwyafrif o sectorau'r economi.
Rhybuddiodd na fyddai "unrhyw un yn cael popeth y maen nhw eisiau" o drafodaethau Brexit, arweiniodd Mr Jones i feirniadu'r araith am gael "gormod o uchelgeisiau amwys a prin unrhyw fanylion".
Yn ei ddatganiad diweddaraf dywedodd Mr Jones bod gan bobl Cymru "ddim syniad am y cytundeb mae'r prif weinidog eisiau gyda Brwsel".
Gyda'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019, dywedodd Mr Jones bod y "cloc yn tician".
"Mae busnesau a'r sector cyhoeddus angen cynllunio ar gyfer y newid enfawr yma ond mae'r diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU yn gwneud hyn bron yn amhosib," meddai.
"Dydw i ddim yn cwestiynu Brexit - mae'r DU yn gadael yr UE - ond rydyn ni'n haeddu gwybod beth yw'r cynllun."
'Cynnydd mewn pwerau'
Bydd Mrs May yn ymweld â phedair gwlad y DU ddydd Iau - gan gynnwys Ayrshire, Newcastle, Belfast a'r Barri cyn gorffen yng ngorllewin Llundain.
Yn siarad cyn yr ymweliadau dywedodd y prif weinidog: "Rydw i'n benderfynol wrth i ni adael yr UE, ac yn y blynyddoedd sydd i ddod, y byddwn yn cryfhau'r cysylltiadau sy'n ein huno, am mai ein hundeb ni yw'r un mwyaf llwyddiannus yn y byd."
Ychwanegodd y byddai "pob un o'r gwledydd datganoledig yn gweld cynnydd yn eu pwerau" ar ôl Brexit.
"Heb os, mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i'r setliadau datganoli, fel rydyn ni wedi'i ddangos gyda deddfwriaeth bwysig dros y blynyddoedd diwethaf," meddai.
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth y Cynulliad basio cyfraith - y Mesur Parhad - fel math o bolisi yswiriant yn erbyn Mesur Gadael yr UE Llywodraeth y DU.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Steffan Lewis, bod y Cynulliad "wedi'i gwneud yn glir iawn y byddan ni'n deddfu i atal San Steffan rhag dwyn ein pwerau".
"Bydd y Mesur Parhad yn sicrhau bod yr holl bwerau dros faterion datganoledig yn parhau wedi'i ddatganoli yn dilyn Brexit.
"Mae Theresa May angen defnyddio ei hymweliad â Chymru i dawelu meddyliau ein dinasyddion y bydd y Mesur Parhad yn cael ei barchu ac na fydd yn cael ei herio yn y llys gan San Steffan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018