Dyn yn osgoi carchar am geisio cwrdd â merch i gael rhyw

  • Cyhoeddwyd
Rajesh Lama
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rajesh Lama deithio i westy yng Nghasnewydd gan gredu ei fod am gwrdd â merch yno

Mae athro wedi osgoi cyfnod o garchar am geisio cwrdd â merch yr oedd yn credu oedd yn 14 oed yng Nghasnewydd i gael rhyw.

Mewn gwirionedd roedd Rajesh Lama, 48 o Birmingham, yn sgwrsio ag oedolyn oedd yn ffugio bod yn blentyn, oedd yn rhan o grŵp sy'n ceisio canfod pedoffiliaid.

Fe wnaeth Lama bledio'n euog i chwech o droseddau rhyw, gan gynnwys tri o geisio cael plentyn i gymryd rhan mewn gweithred ryw.

Cafodd ei ddedfrydu i 18 mis o garchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, a bydd yn rhaid iddo gyflawni 180 awr o waith di-dâl a gwneud yr heddlu'n ymwybodol o'i gyfeiriad am 10 mlynedd.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Lama yn athro gwyddoniaeth mewn ysgol i ferched - Ysgol Hodge Hill yn Birmingham.

Ni wnaeth unrhyw sylw wrth gael ei holi gan yr heddlu, ac fe wrthododd rhoi'r cod i'w ffôn symudol iddyn nhw.

Cafodd ei ddal gan grŵp sy'n galw eu hunain yn Petrous, oedd wedi creu proffil ffug ar-lein ar gyfer merch 14 oed o'r enw Sam Williams.

Cynnig talu £100

Dywedodd David Pugh ar ran yr erlyniad bod Lama wedi cysylltu â'r proffil ffug gyntaf ym mis Mai 2017, a'i fod wedi sgwrsio â'r "ferch" yn ddyddiol am bythefnos a hanner.

"Fe wnaeth 'Sam' ddweud yn syth ei bod yn 14 oed, ond fe barhaodd â'r sgwrs gan ddweud ei fod yn 25, pan mewn gwirionedd roedd yn 47 oed ar y pryd," meddai Mr Pugh.

Roedd Lama wedi dweud ei fod yn gweithio i gwmni ffotograffiaeth, a dywedodd y byddai'n teithio i Gasnewydd a threfnu gwesty i dynnu lluniau o'r "ferch".

Dywedodd hefyd y byddai'n talu £100 iddi, cyn iddo yrru lluniau anweddus o'i hun ati a dweud ei fod eisiau cael rhyw gyda hi yn y gwesty.

Clywodd y llys bod Lama wedi teithio i westy'r Waterloo yng Nghasnewydd ar 31 Mai gan gredu ei fod am gwrdd â'r ferch yno.

Ond roedd aelodau o grŵp Petrous yno'n disgwyl amdano, ac fe wnaethon nhw basio'r mater ymlaen at yr heddlu.