Profion cynharach am glefyd y galon yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd mwy o gleifion sy'n cael eu hamau o fod â chlefyd y galon yn cael eu gweld yn gynt, a bydd nod o wyth wythnos ar gyfer nifer o brofion diagnostig.
Clefyd y galon yw'r achos mwyaf o farwolaeth yng Nghymru, gyda mwy na 9,000 yn marw bob blwyddyn.
Ar hyn o bryd dim ond cleifion sy'n disgwyl am brawf straen neu brawf ecocardiogram sy'n cael eu gweld o fewn wyth wythnos.
Ond mae adolygiad wedi dangos fod pobl sydd angen wyth o brofion eraill angen cael eu gweld a'u trin yn gynt.
Ychwanegu wyth prawf
Yn ôl Datganiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Glefyd y Galon, mae oddeutu 375,000 o bobl yng Nghymru - tua 4% o'r boblogaeth - yn byw gyda'r cyflwr.
O 1 Ebrill, bydd wyth o brofion eraill ar gyfer cleifion sy'n cael eu hamau o fod â'r cyflwr yn cael eu hychwanegu i'r targed wyth wythnos.
Mae'r profion yn cynnwys monitro pwysau gwaed a chofnodi rhythm y galon.
Mae peth gwaith eisoes wedi cael ei wneud yn y maes hwn, a rhwng Ebrill a Rhagfyr 2017, fe wnaeth y nifer oedd yn disgwyl mwy nag wyth wythnos am y profion leihau o 33% i 17%.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething bod y newid yn golygu y bydd "cleifion sydd efallai'n sâl iawn" yn cael diagnosis a thriniaeth yn gynharach.
Ychwanegodd Llywydd Cymdeithas Cardiofasciwlar Cymru, Dr Jonathan Goodfellow: "Mae pobl sy'n diodde' gyda symptomau clefyd y galon angen diagnosis a thriniaeth effeithiol ar frys.
"Bydd darparu profion priodol yn lleol yn caniatáu i gleifion dderbyn yr holl ymchwil angenrheidiol i gael diagnosis cywir."