Heddlu'n lansio ymchwiliad i lofruddiaeth yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Pentre-chwythFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad gyda unrhyw un oedd yn agos i rhif 112 Ffordd Pentre-chwyth nos Iau

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod nhw'n ymchwilio i achos o lofruddiaeth ar ôl i gorff dyn 67 oed gael ei ddarganfod yn Abertawe.

Cafwyd hyd i gorff John Williams yn ei gartref yn Ffordd Pentre-chwyth yn y ddinas am tua 12:30 dydd Sadwrn 31 Mawrth.

Mae ystafell ymchwilio arbennig wedi'i lleoli yng ngorsaf heddlu Y Cocyd, Abertawe ble mae Tîm Ymchwilio Troseddau Difrifol yn awyddus i siarad gydag unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad.

Mae teulu Mr Williams wedi cael gwybod ac yn derbyn cymorth arbenigol gan yr heddlu.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd swyddogion fforensig yn bresennol ddydd Sul

Roedd Mr Williams yn cael ei adnabod yn lleol fel 'Jack,' roedd wedi ymddeol, ac yn byw yn yr ardal ers sawl blwyddyn.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Richard Jones o Heddlu'r De: "Mae ein meddyliau i gyd gyda theulu John Williams ar hyn o bryd.

"Hoffwn wneud apêl a gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda'r ystafell ymchwilio neu gysylltu'n anhysbys gyda Taclo'r Tacla."

Mae'r heddlu hefyd yn awyddus i siarad gydag unrhyw un wnaeth ymweld â rhif 112 ffordd Pentre-chwyth rhwng dydd Iau, 29 Mawrth nes cafwyd hyd i gorff Mr Williams am 12:30 ddydd Sadwrn, 31 Mawrth.

Mae'r heddlu eisiau i unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng yr amseroedd hynny a wnaeth sylwi ar unrhyw beth amheus gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.