Beirniadu cynghorau am beidio defnyddio cronfa cymorth tai

  • Cyhoeddwyd
Tai

Mae elusennau wedi beirniadu rhai o gynghorau Cymru am roi cymorth ariannol yn ôl i'r llywodraeth yn hytrach na'i ddefnyddio.

Bydd cynghorau Cymru yn rhoi £77,000 o gronfa oedd i fod i helpu pobl sy'n cael trafferth talu eu rhent yn ôl i Lywodraeth y DU.

Mae cyngor Merthyr Tudful yn rhoi £40,000 yn ôl - mwy nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru.

Dywedodd Shelter Cymru ei fod yn "wastraff adnoddau llwyr".

Mae Cyngor Sir Merthyr Tudful yn dweud ei fod oherwydd "cynnydd" i'w chyllideb.

Cymorth ychwanegol

Mae cynghorau'n cael arian gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) bob blwyddyn i'w wario ar Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn (DHP).

Mae'r taliadau ar gyfer pobl sy'n cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol a sydd angen cymorth ychwanegol gyda chostau rhent.

Os nad yw'r arian yn cael ei wario gan gynghorau, mae'n rhaid iddyn nhw ei roi yn ôl i'r llywodraeth ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Cafodd cynghorau Cymru gyfanswm o £9,749,151 eleni, cynnydd o 24% o'i gymharu gyda 2016/17.

Mae pob un ond tri o gynghorau Cymru wedi gwario eu holl arian:

  • Merthyr Tudful: Dychwelyd £40,000 (19.2% o'u dyraniad);

  • Ynys Môn: Dychwelyd £23,501 (14.4% o'u dyraniad);

  • Rhondda Cynon Taf: Dychwelyd £13,493 (2% o'u dyraniad).

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 26,741 o bobl wedi gwneud cais am gymorth yn 2017/18, a bod 5,380 wedi eu gwrthod.

Y grant cyfartalog i daliad DHP yw £418.15.

'Gwastraff llwyr'

Dywedodd rheolwr ymgyrchoedd Shelter Cymru, Jennie Bibbings bod "llawer o gleientiaid" wedi dod atyn nhw gyda phroblemau tai, ond bod ceisiadau DHP yn cael eu gwrthod.

"O ganlyniad roedd rhai ohonyn nhw yn mynd yn ddigartref - sy'n costio mwy i'r awdurdod lleol," meddai.

Ychwanegodd: "Mae rhai cynghorau'n cymeradwyo bron i bob cais tra bod eraill yn gwrthod tua hanner y ceisiadau felly does dim cysondeb.

"Os ydy'r arian yn mynd yn ôl i San Steffan yna mae'n wastraff llwyr o adnoddau i Gymru."

Gofynnodd AC Merthyr Tudful, Dawn Bowden, pam nad oedd y cyngor wedi gwario'r holl arian pan "rydyn ni'n gwybod bod problem gyda digartrefedd yn y dref?".

Wrth ymateb, dywedodd y Cynghorydd Andrew Barry bod y cyngor wedi cael trafferth gwario'r holl arian.

"Fe wnaeth y DWP gynyddu ein cyllideb o £42,000 llynedd gyda'r disgwyliad y byddai effaith o'r cap ar fudd-daliadau.

"Ond yn syml ni wnaeth y niferoedd ddod i'r fei. Y polisi yw'r polisi. Rydyn ni'n cadw at y polisi."

Ychwanegodd bod y cyngor wedi rhoi rhwng 96-98% o'r arian ers 2014, a bod llai o geisiadau am yr arian yn "beth da i Ferthyr gan ei fod yn golygu bod yr ardal yn gwella".