'Mwy i golli cartrefi' o achos Credyd Cynhwysol

  • Cyhoeddwyd
Tai

Bydd Credyd Cynhwysol yn arwain at orfodi mwy o bobl i adael cartrefi sydd wedi eu rhentu'n breifat, yn ôl Canolfan Cydweithredol Cymru.

Mae'r gymdeithas yn dweud bod taliadau misol a'r oedi o bum wythnos cyn cael y taliad cyntaf yn golygu fod mwy o denantiaid mewn dyled gyda'i rhent, allai arwain atyn nhw'n cael eu gorfodi i adael.

Mae'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl (RLA) yn cytuno, ac yn galw ar landlordiaid i gael eu talu'n uniongyrchol o'r Credyd Cynhwysol.

Mae Credyd Cynhwysol yn cyfuno chwe budd-dal i un taliad misol, sy'n cynnwys y budd-dal tai.

Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau bod pobl sy'n symud i'r budd-dal yn derbyn taliad rhent am bythefnos wrth iddyn nhw aros am eu taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

'Dioddef o ddyled'

Mae tenantiaid nawr yn gyfrifol am dalu rhent eu hunain, yn wahanol i'r budd-dal tai, oedd yn arfer cael ei dalu'n syth i'r landlord.

Mae'n rhaid i landlordiaid roi deufis o rybudd os am orfodi tenant i adael eu cartref.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Douglas Haig fod y cynnydd mewn dyled yn golygu bod mwy o bobl yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi

Dywedodd Jocelle Lovell o Ganolfan Cydweithredol Cymru fod pobl yn aml heb arian wrth ddisgwyl am daliad cyntaf Credyd Cynhwysol.

"Mae wyth wythnos o ddyled yn bosibilrwydd os oes gennych chi denant sydd â dyled rhent yn barod, ac yn gorfod disgwyl pum wythnos arall am arian," meddai Ms Lovell.

"Mae nifer o bobl yn credu bydd cynnydd yn nifer y bobl fydd yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi pan fydd y Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno."

'Canlyniad trist'

Mae ymchwil gan yr RLA yn dangos bod 38% o landlordiaid yn y DU sydd â thenantiaid sy'n derbyn Credyd Cynhwysol yn dioddef o ddyled rhent - cynnydd o 11% o'i gymharu â'r llynedd.

Dywedodd Is-Gadeirydd yr RLA, Douglas Haig fod y cynnydd mewn dyled yn golygu bod mwy o bobl yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi.

"Mae'n ganlyniad trist nad yw landlordiaid yn derbyn y taliadau yn brydlon, ac mae wedi'i gyfuno gyda thair elfen arall; methu a derbyn y taliadau'n uniongyrchol, oedi mewn derbyn taliadau a diffyg rhannu data," meddai.

"Mae landlordiaid wedi eu rhwystro rhag gweld os yw'r tenantiaid yn derbyn budd-dal tai, roedden nhw'n arfer bod yn rhan o'r broses o wneud cais.

"Mae llai o landlordiaid yn rhentu i bobl sy'n derbyn Credyd Cynhwysol."

Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau bod pobl sy'n symud i Gredyd Cynhwysol yn derbyn taliad rhent am bythefnos wrth iddyn nhw aros am eu taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae Credyd Cynhwysol ym mhob canolfan waith i hawlwyr unigol, ac rydyn ni'n ehangu i ystod fwy eang o bobl mewn ffordd ddiogel a dan reolaeth, ac mae'n gweithio.

"Gyda Chredyd Cynhwysol, mae pobl yn symud i mewn i waith yn gynt ac yn aros mewn gwaith yn hirach na dan yr hen system."