Clinig triniaeth proton i ganser i agor yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r ganolfan gyntaf yn y DU i gynnig triniaeth proton i gleifion canser ar fin agor yng Nghymru.
Mae disgwyl i'r clinig preifat ddechrau defnyddio'r dechneg yng Nghasnewydd yr wythnos nesaf.
Math o radiotherapi sy'n targedu canser mewn rhannau o'r corff sy'n anodd eu cyrraedd, gan leihau'r risg o effeithio rhannau eraill o'r corff, yw therapi proton.
Ond mae rhieni merch ifanc o Gastell-nedd gafodd driniaeth yn yr Unol Daleithiau yn dweud ei bod yn rhwystredig bod cryn oedi cyn cynnig y driniaeth yma.
£60,000 y claf
Mae'r Rutherford Cancer Centre wedi cael caniatâd i gynnig y driniaeth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Y gred yw y bydd triniaeth yn costio tua £60,000 i bob claf, ond nid yw'n glir a fydd cleifion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael eu trin yno.
Mae'r driniaeth yn fwy drud na mathau eraill o radiotherapi, a hyd yma mae cleifion wedi gorfod teithio dramor am therapi proton.
Fe wnaeth Freya Bevan, sy'n bump oed, fynd i'r UDA i gael y therapi ar ôl i'r GIG wrthod rhoi'r driniaeth yn y DU.
Roedd rhaid i'w theulu hel £110,000 i dalu am y driniaeth dramor, ac mae ei thad, John Paul, yn dweud bod y sefyllfa yng Nghymru wedi bod yn rhwystredig.
"Mae'n fy ngwneud yn flin ein bod ni mor bell ar ei hôl hi," meddai.
"Mae rhain wedi bod yn America am dros 20 mlynedd. Nid yw'n rhywbeth newydd."
Datblygiad 'cyffrous'
Cafodd y ganolfan yng Nghasnewydd £10m o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n gallu trin llawer o fathau gwahanol o ganser.
Mae disgwyl i ganolfannau tebyg agor ym Manceinion a Llundain yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Dr Martin Rolles, ymgynghorydd oncoleg yn Abertawe, bod dechrau'r driniaeth yn y DU yn "gyffrous".
"Mae profion meddygol yn digwydd i gasglu tystiolaeth am fuddion y driniaeth. Ar hyn o bryd mae'n rhy gostus i'w defnyddio'n gyffredinol."