'Gobaith newydd yn y tir' i Gristnogion Cymru
- Cyhoeddwyd
Wrth i ŵyl Gristnogol Gymraeg flynyddol ddirwyn i ben yn Sir Gaerfyrddin ddydd Iau, mae yna "obaith newydd yn y tir" i Gristnogion Cymru yn ôl prif siaradwr yr ŵyl eleni.
Fe gafodd gŵyl Llanw ei sefydlu 11 mlynedd yn ôl, gan symud o le i le dros y blynyddoedd, ac ymweld â threfi a phentrefi fel Llangrannog, Cricieth a Dinbych-y-pysgod.
Eleni, Cydweli yw ei chartref.
Yn ôl Rhys Llwyd, prif siaradwr yr ŵyl eleni, y rheswm y tu ôl i'w sefydlu oedd i "roi cyfle i Gristnogion ddathlu gyda'i gilydd a dangos fod yna arwyddion o obaith, er gwaethaf trai crefydd draddodiadol".
Mae'r ŵyl wedi tyfu dros y blynyddoedd - 60 o bobl aeth i'r gyntaf. Erbyn hyn, mae'n denu tua 400 o bobl - hanner y rheiny'n blant a phobl ifanc.
Addoli cyfoes
"Ers y cychwyn, mae wedi bod yn fwy na jest oedolion yn dod at ei gilydd i wrando ar bregeth," meddai Mr Llwyd.
"Mae yna bwyslais wedi bod ar addoli cyfoes, a hefyd gweithgareddau addas i blant a phobl ifanc o bob oed."
Er llwyddiant yr ŵyl, mae Mr Llwyd yn cydnabod bod llawer o waith i'w wneud wrth geisio adfywio'r capeli ac eglwysi Cymraeg.
"Mae llawer o eglwysi Saesneg yng Nghymru - yn rhai Pentecostalaidd a Charismataidd - wedi gweld twf aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf, ond nid yw'r un bywyd wedi'i weld mewn eglwysi Cymraeg," meddai.
"Pam? Rhan o'r esboniad yw oherwydd bod eglwysi Cymraeg ddim yn cymryd gwaith yr Ysbryd Glan o ddifri.
"Y weledigaeth tu ôl i Llanw yw nid denu pobl o du allan yr eglwys fel petai, ond denu Cristnogion er mwyn eu hysbrydoli i fynd adref ar ddiwedd yr ŵyl gydag awch newydd i ymroi i fywyd eu capeli ac eglwysi, a hefyd i rannu'r ffydd Gristnogol mewn gair a gweithred."
Mae Mr Llwyd yn credu fod gan ŵyl Llanw ran bwysig i'w chwarae: "Oherwydd bod llawer o eglwysi a chapeli ar draws y wlad yn lleihau o ran nifer, mae Cristnogion yn mwynhau cyfle i fynychu gŵyl fawr lle mae modd addoli mewn cynulleidfa fywiog.
"Mae yna ryw deimlad hefyd o blith Cristnogion Cymru fod yna obaith newydd yn y tir - er bod crefydd draddodiadol yn parhau i farw ar raddfa gyflym iawn - mae yna deimlad fod hyn yn rhoi cyfle i fynegiant newydd o Gristnogaeth flodeuo.
"Mae yna deimlad yma fod Llanw yn rhan o'r rhywbeth newydd yna mae Duw yn gwneud yng Nghymru."