Undeb yr NUJ yn poeni am ddyfodol ariannu S4C
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor gweithredol undeb newyddiadurwyr yr NUJ yng Nghymru wedi mynegi pryder am benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi'r gorau i gyllido S4C ymhen pedair blynedd.
Mae'r undeb wedi cyflwyno cynnig i gyfarfod o gynrychiolwyr y mis hwn yn galw ar wleidyddion, darlledwyr a grwpiau dinesig i ymgyrchu er mwyn sicrhau bod S4C yn "sianel fywiog sy'n cael yr adnoddau cywir" a'i bod yn cael ei rheoli a'i hariannu yng Nghymru dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad.
Yn dilyn adolygiad o'r sianel dan gadeiryddiaeth Euryn Ogwen Williams, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Matt Hancock y byddai'n derbyn yr argymhellion, oedd yn cynnwys dileu cyfraniad Llywodraeth y DU i'r sianel a chreu bwrdd newydd fyddai'n cynnwys rhai o swyddogion y sianel - yn ogystal ag aelodau anweithredol - fyddai'n goruchwylio a rhoi cyngor wrth lunio'r ffordd ymlaen.
Pryderon
Mae'r NUJ nawr yn codi pryderon am ddyfodol ariannu S4C, gan gwestiynu a yw penderfyniad Llywodraeth San Steffan i roi'r gorau i gyfrannu £7m i'r sianel erbyn 2022 yn golygu y bydd y sianel £7m yn dlotach o ganlyniad.
Ar hyn o bryd, £84m yw cyllideb flynyddol S4C, gyda 92% o'r arian yn dod trwy law'r BBC, a'r gweddill - £6.672m - yn dod gan Lywodraeth y DU.
Yn ei adolygiad, dywedodd Euryn Ogwen Williams nad oedd angen rhagor o arian ar S4C er mwyn iddyn nhw gynnig mwy o wasanaethau, ond bod angen newid y ffordd mae'r sianel yn cael ei rheoli.
Ychwanegodd mai'r BBC ddylai roi'r cyllid cyfan i'r sianel o 2022 ymlaen, pan fyddai eu siarter yn cael ei hadnewyddu.
Anghytuno a hynny wnaeth y BBC, gan ddweud y byddai'n well i arian S4C ddod o fwy nag un ffynhonnell.
Dywedodd cadeirydd S4C, Huw Jones, ei fod yn "croesawu dymuniad y llywodraeth i sicrhau sefydlogrwydd ariannol i S4C ar gyfer y tymor hir".
Ychwanegodd y byddai S4C yn edrych yn fwy manwl ar yr adolygiad ac ymateb y llywodraeth dros yr wythnosau nesaf cyn ymateb yn llawnach.
Wrth egluro pryderon yr NUJ yng Nghymru am ddyfodol S4C, dywedodd cadeirydd y cyngor gweithredol, Ken Smith, bod yna "amheuon mawr" a fydd cynlluniau'r Llywodraeth yn arwain at sefydlogrwydd a sicrwydd i S4C a BBC Cymru.
"Rydym eisiau i wleidyddion a darlledwyr yng Nghymru ymuno a ni i ymgyrchu am S4C fywiog sydd â'r adnoddau cywir, sydd wedi ei rheoli a'i hariannu yng Nghymru, dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad."
Mae'n dadlau y byddai'r toriad yn dod ar ben gwerth £20m o doriadau dros y degawd diwetha, a bod BBC Cymru wedi wynebu toriadau sylweddol yn ystod yr un cyfnod.
"Dydyn ni ddim yn gweld sut y gall y cam hwn arwain at ddarlledu cyhoeddus mwy cadarn yng Nghymru ar adeg pan mae ei wir angen," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2018