Erfyl Owen o ardal Rhuthun yn ennill Cân i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Erfyl Owen gyda ceidwad y Gân a chyflwynwyr y noson
Disgrifiad o’r llun,

Erfyl Owen yn dathlu gydag aelodau'r grŵp Ceidwad y Gân a chyflwynwyr y noson Trystan Ellis Morris ac Elin Fflur

Erfyl Owen o bentref Rhewl ger Rhuthun wnaeth ennill cystadleuaeth Cân i Gymru 2018 nos Iau gyda'r gân 'Cofio Hedd Wyn'.

Mab y cyfansoddwr buddugol, Harri, yw prif leisydd y grŵp Ceidwad y Gân a wnaeth perfformio'r gân yn Theatr Bryn Terfel, canolfan Pontio, Bangor.

Lluniau: Cân i Gymru 2018

Mae Erfyl, sy'n gweithio i Gyngor Sir Ddinbych ac yn dod o bentref Rhewl ger Rhuthun, yn aelod o deulu cerddorol Hafod y Gân.

Roedd yn arfer cyfansoddi caneuon gyda'i ddiweddar fam ar gyfer penblwyddi ac achlysuron arbennig i ffrindiau a theulu, ond dyma'r tro cyntaf iddo gyfansoddi'r alaw a'r geiriau.

Dywedodd ei fod yn awyddus i greu geiriau oedd am fynd at galon y genedl, wrth sôn am ganmlwyddiant marwolaeth y bardd Hedd Wyn.

Disgrifiad o’r llun,

Y tad a'r mab gefn llwyfan

Mae cyfansoddwr y gân fuddugol yn cael gwobr o £5,000, gyda'r enillwyr hefyd yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon ym mis Ebrill.

Fe gafodd 114 o ganeuon eu hanfon i'r gystadleuaeth eleni - y "nifer fwyaf ers rhai blynyddoedd" yn ôl S4C.

Pleidlais gyhoeddus wnaeth benderfynu pwy oedd yr enillydd ar ôl i banel o arbenigwyr ddewis yr wyth cân ar gyfer y rownd derfynol.

'Byw a Bod' gan Mared Williams oedd yn ail yn y gystadleuaeth, gan ennill gwobr o £2,000.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mab Erfyl yn perfformio'r gân fuddugol gyda'r grŵp Ceidwad y Gân

Bethan Williams Jones a Sam Humphreys oedd yn y trydydd safle gyda'r gân 'Tincian', gan dderbyn gwobr o £1,000.

Ar drothwy'r gystadleuaeth, fe wnaeth S4C gadarnhau eu bod am roi cyngor i gystadleuwyr o flaen llaw rhag i sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol beri loes iddyn nhw.

Dyma'r tro cyntaf i'r orsaf wneud hynny, am fod rhai wedi "teimlo dan bwysau oherwydd sylwadau negyddol" yn y gorffennol.

Fe gafodd y gystadleuaeth ei chynnal am y tro cyntaf yng nghanolfan Pontio, Bangor, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris unwaith eto yn cyflwyno.

Gweddill y rhestr fer:

  • Dwi'm Yn Dy Nabod Di - Dafydd Dabson ac Anna Georgina

  • Ton - Gwynfor Dafydd a Michael Phillips

  • Ysbrydion - Aled Wyn Hughes

  • Dim Hi - Hana Evans

  • Ti'n Frawd I Mi - Owen Glenister