Medal aur gyntaf Cymru i'r codwr pwysau Gareth Evans
- Cyhoeddwyd
Mae'r codwr pwysau Gareth Evans o Gaergybi wedi ennill medal aur gyntaf Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.
Fe gododd gyfanswm o 299Kg ar ail ddiwrnod y cystadlu, yn y categori -69kg.
Ar ôl i Indika Dissanayake Mudiyanselage o Sri Lanka orfod bodloni ar yr ail safle, roedd yna ddathliadau mawr ymhlith cefnogwyr Cymru, gydag Evans yn cario baner y ddraig yn fuddugoliaethus o amgylch y llwyfan cystadlu.
Daeth Evans yn bumed yn y categori -62kg yn Glasgow bedair blyendd yn ôl, gan gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad am y tro cynta yn Delhi yn 2010.
"Roedd hi'n anodd peidio â bod ychydig yn ddagreuol, os dwi'n gwbl onest. Fel pob Cymro mae yna falchder mawr," meddai.
Methiant yn sbardun
"Mae'n arbennig iawn cael sefyll yna gyda'r fedal aur.
"Gallai ond dychmygu be sy'n digwydd nôl adre yn nhŷ fy mam a'n nhad ar hyn o bryd.
"Wnes i ddim llwyddo i gael medal yn Glasgow ac fe wnes i addo na fydden ni yn methu eto ac mae hynny wedi fy sbarduno am y pedair blynedd diwethaf."
Mae codwyr pwysau Cymru wedi llwyddo i ennill medal o ryw liw ym mhob un o Gemau'r Gymanwlad ers 1958.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2018