Ymchwiliad i dwyll honedig noson elusennol Paul Gascoigne
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i gyhuddiad o dwyll sy'n ymwneud â noson elusennol gyda chyn bêl-droediwr rhyngwladol Lloegr, Paul Gascoigne.
Mae Clwb Pêl-Droed Caernarfon wedi dweud ar eu tudalen Facebook fod y noson elusennol wedi'i chanslo gan fod blaendal i asiant Mr Gascoigne heb ei dalu ar ôl gwerthiant tocynnau.
Yn dilyn ymchwiliad mewnol gan y clwb, mae cytundeb aelod o staff wedi'i derfynu.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi datganiad yn dweud: "Mae'r clwb wedi adrodd cyhuddiad o dwyll sydd ar hyn o bryd yn cael ei ymchwilio. Does neb wedi cael ei arestio."
Mae tudalen Facebook y clwb yn dweud ei bod nhw'n "benderfynol fod pawb sydd wedi prynu tocyn yn cael y cyfle i dreulio noson gyda Gazza, ac mae penderfyniad wedi'i wneud i aildrefnu'r digwyddiad".
"Mae dyddiad ym mis Hydref neu Dachwedd yn bosibilrwydd ac mae trafodaethau eisoes wedi dechrau gydag asiant Mr Gascoigne," medd y datganiad.