Medal aur i'r seiclwr Elinor Barker yn y Gemau Gymanwlad
- Cyhoeddwyd

Mae'r seiclwr Elinor Barker wedi cipio'r fedal aur yn y ras bwyntiau i ferched dros 25km.
Dyma'r ail fedal aur i Gymru yn y Gemau Gymanwlad yn Awstralia.
Daeth y fuddugoliaeth ychydig funudau ar ôl llwyddiant James Ball a'i dywysydd Peter Mitchell yn y ras gwibio i ddynion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg.
Medal arian gafodd ef, yr ail fedal iddo yn y gemau.
Mae Chloe Tutton hefyd wedi ennill medal efydd yn ras 200m dull broga.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2018