Chwaraeon: 'Angen i leiafrifoedd ethnig fod â rhan'

  • Cyhoeddwyd
Grangetown 4G pitch
Disgrifiad o’r llun,

Mae Race Council Cymru am weld mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig yn cael y cyfle i ymgymryd â chwaraeon

Mae grwpiau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn dweud nad oes llawer o gefnogaeth iddynt pan maen nhw'n annog mwy o bobl yn eu cymunedau i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Yn ôl Race Council Cymru (RCC) - corff sydd wedi'i ffurfio i fynd i'r afael â rhagfarn, hiliaeth, aflonyddu, cam-drin a thrais - mae angen i Chwaraeon Cymru wneud mwy i annog pobl o leiafrifoedd ethnig i gymryd rhan.

Mae Chwaraeon Cymru yn dweud bod ganddynt raglen £538,000 sydd wedi cefnogi grwpiau cymunedol ac sydd wedi hyfforddi 150 o wirfoddolwyr newydd.

Dywedon nhw hefyd eu bod yn ehangu rhaglenni i dargedu cymunedau ond eu bod yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith yn y maes.

Mae ystadegau ar faint o bobl ddu ac o leiafrifoedd ethnig sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru yn anodd asesu - yn ôl Chwaraeon Cymru dyw'r arolygon sydd wedi'u gwneud ymhlith oedolion ddim yn cynnig sampl digon mawr.

Mae ymchwil Chwaraeon Cymru o 2015 yn dangos darlun cymhleth.

Fe ddangosodd yr adroddiad bod dynion Asiaidd yn fwy parod i ymgymryd â chwaraeon na dynion gwyn ond bod menywod Asiaidd yn llai tebygol na menywod gwyn i gymryd rhan.

Roedd 12 o argymhellion yn yr adroddiad, gan gynnwys un oedd yn nodi y dylai byrddau cyrff chwaraeon recriwtio mwy o aelodau o gymunedau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig.

Mae Race Council Cymru, sy'n cynrychioli mwy na 30 o sefydliadau, yn dweud bod angen mwy o arian os yw Chwaraeon Cymru yn dymuno cael mwy o bobl ddu, Asiaidd a rhai o leiafrifoedd ethnig i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Dywedodd y prif weithredwr Uzo Iwobi: "Dwi'n meddwl bod sawl rhaglen wedi digwydd ond dydyn nhw ddim wedi digwydd ar draws Cymru.

"Dwi ddim yn meddwl bod pobl ddu a phobl o gefndiroedd ethnig wedi bod â rhan mor flaenllaw ag y gallan nhw fod wedi bod - petaent ond wedi cael gwrandawiad a gwybod bod eu lleisiau yn cyfrif.

"Rhaid meddwl eto - mae 'na syniad o geisio dod o hyd i atebion heb bobl."

'Cyfle i gydweithio'

Yn fuan bydd Chwaraeon Cymru yn cwblhau prosiect dwy flynedd sydd wedi'i anelu at bobl ddu ac o leiafrifoedd ethnig. Ar gost o dros £500,000 mae 3,500 wedi cymryd rhan.

Mae'r prosiect wedi'i ymestyn hyd at fis Mawrth y flwyddyn nesaf ac mae £92,139 o gyllid ychwanegol wedi'i roi tuag ato.

Dywedodd Tom Overton, pennaeth chwaraeon cymunedol yn Chwaraeon Cymru: "Rwy'n derbyn bod mwy i'w wneud ond nid rôl Chwaraeon Cymru yn unig yw hyn.

"Pan ry'n yn edrych ar y budd sydd yna o chwaraeon a chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, mae 'na fudd iechyd, cymdeithasol ac economaidd - mae yna gyfle da i gydweithio rhwng gwahanol sefydliadau, boed yn y sector iechyd neu'r sector addysg."

Mae'n dweud bod y gellid gwneud mwy i sicrhau bod pobl ddu ac o gefndiroedd iechyd yn esiamplau i eraill.

Ychwanegodd: "Ar hyn o bryd mae Gemau'r Gymanwlad yn cael eu cynnal ac fe fydd pobl yn dymuno bod yn un o'r athletwyr hynny yn y dyfodol - felly mae'n rhaid i ni wneud mwy i sicrhau ein bod yn datblygu, cefnogi a chynnig cyfleoedd i bobl ddu ac o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i fod yn esiampl i eraill."