Cwynion am erthygl y colofnydd Rod Liddle am Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae erthygl yn y Sunday Times oedd yn dweud bod Pont Hafren yn cysylltu Cymru gyda'r "Byd Cyntaf" wedi arwain at gwynion i gorff safonau'r cyfryngau.
Mae Sefydliad Annibynnol Safonau'r Wasg (IPSO) wedi derbyn o leiaf 19 o gwynion am yr erthygl gan Rod Liddle.
Dywedodd AS Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts bod yr erthygl yn bychanu'r iaith Gymraeg a gwneud tlodi yng Nghymru'n destun hwyl.
Mae cyhoeddwyr y Sunday Times, News UK, wedi cael cais am sylw.
30,000 yn arwyddo deiseb
Fe ddaeth colofn Mr Liddle yn sgil y ffrae am ailenwi ail groesiad Pont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.
Mae tua 30,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Yn ei golofn dywedodd Mr Liddle nad oedd enw'r bont o bwys cyn belled â'i bod yn "caniatáu pobl i adael y lle yn syth".
Ychwanegodd y byddai yn well gan y Cymry pe byddai'r bont yn cael ei enwi yn "rhywbeth annealladwy heb eiriau go iawn, fel Ysgythysgymlngwchgwch Bryggy".
"Gadewch iddyn nhw gael eu ffordd eu hunain. Cyn belled â'i bod yn caniatáu i bobl adael y lle yn syth, a ddylen ni boeni beth mae'n cael ei galw," meddai.
Dywedodd Ms Saville-Roberts wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru fore Llun: "Dau beth penodol wnaeth fy nghorddi i - roedd o'n bychanu'r Gymraeg yn benodol, nid dim ond geiriau annealladwy, ond ei bwrpas o oedd bychanu'r iaith Gymraeg," meddai.
"Yn ail, beth oedd o'n ei wneud oedd cymharu tlodi Cymru fel rhywbeth chwerthinllyd gyda Lloegr, a Lloegr fel oedd o'n ei ddweud yn y Byd Cyntaf.
"Mae Rod Liddle yn ennill ei damaid ar leisio rhagfarnau Prydeinig, ac fel arfer mae'n gwneud hynny ar gefn rhyw leiafrif neu'i gilydd.
"Felly beth sydd gennych chi ydy caniatâd - caniatâd fel polisi golygyddol y Sunday Times - i leisio gormes y rhai grymus yn erbyn y rhai gwan. Pam ddylwn ni ddioddef hynny?"
Ychwanegodd Ms Saville-Roberts bod angen cwestiynu pa amddiffyniad cyfreithiol sydd gan bobl yn erbyn y fath sylwadau.
"Mae rhywun yn digalonni, a gofyn pa amddiffyniad cyfreithiol sydd gennym ni, os ydych chi'n ei alw'n hiliol ai peidio, mae o'n rhagfarn, ac mae'n cael ei ddefnyddio yn ein herbyn ni," meddai.
"A ddylai'n heddluoedd ni fod yn ymateb i'r cwestiynau yna?"
Dywedodd llefarydd o IPSO fore Llun eu bod wedi derbyn 19 cwyn am yr erthygl, ond doedden nhw ddim yn gallu datgelu natur y cwynion, na gan bwy y daethon nhw.
'Cwbl annerbyniol'
Yn ymateb i erthygl Mr Liddle, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws ddydd Llun: "Er ei bod hi'n bwysig ein bod yn parchu rhyddid i fynegi barn ar wahanol bynciau, mae'r cynnydd yn y sylwadau dilornus am Gymru, y Gymraeg a'i siaradwyr yn peri pryder.
"Dros y misoedd diwethaf rydym wedi gweld nifer o sefyllfaoedd lle caiff pobl eu sarhau - ac mae hyn yn gwbl annerbyniol.
"Rai misoedd yn ôl, fe wnes i ymuno ag eraill i ddatgan bod angen cymryd camau i roi stop ar y sylwadau hyn, a datgan bod angen deddfu i warchod hawliau ac atal casineb at iaith.
"Byddaf nawr yn galw cyfarfod gydag unigolion a grwpiau â diddordeb i drafod y mater ymhellach a meddwl sut i symud yr agenda yn ei blaen."
Dywedodd Robin Farrar, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas yr Iaith eu bod wedi "gofyn i'r Times am yr hawl i ymateb i'r erthygl".
"Mae camwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg yn gwbl annerbyniol. Mae ymosodiadau fel hyn yn dangos ymagwedd drefedigaethol ddylai fod yn perthyn i'r oes a fu," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2018