Cymeradwyo gosod gorsaf dywydd ar gopa'r Wyddfa
- Cyhoeddwyd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi rhoi sêl bendith i gynlluniau i osod gorsaf dywydd ar gopa'r Wyddfa.
Fe fydd yr orsaf ar ffurf un polyn 1.8 metr uwchben to Hafod Eryri.
Nod yr orsaf fydd gallu rhoi adroddiadau manwl am y tywydd ar y copa, gyda'r gobaith o leihau damweiniau i gerddwyr a mynyddwyr.
Roedd swyddogion yr awdurdod wedi argymell cymeradwyo'r cais i osod yr orsaf dywydd, ac fe gafodd hynny ei gymeradwyo mewn cyfarfod ddydd Mercher.
Croeso Cymru - y corff sy'n gofalu am dwristiaeth ar ran Llywodraeth Cymru - fydd yn talu am yr orsaf, a bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y tymheredd a lefel y gwynt ar y copa.
Gyda 500,000 o bobl yn ymweld â'r mynydd yn flynyddol, mae'r timau achub mynydd lleol yn brysur, ond y gobaith yw y gellir osgoi nifer o ddamweiniau os fyddai ymwelwyr yn talu sylw i'r adroddiadau tywydd o'r copa.
Mae adroddiad i aelodau'r awdurdod yn dweud fod y cais yn cyd-fynd â swyddogaeth yr awdurdod i ddarparu adroddiadau tywydd i'r funud i ymwelwyr, ac nad yw dyluniad yr orsaf yn edrych allan o le ar y copa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2017
- Cyhoeddwyd24 Awst 2017